Rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru
Fel rhan o’n hymroddiad i sicrhau fod eiddo a reolir gan Gyngor Sir Ynys Môn yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012 yr ydym yn ymuno mewn partneriaeth gyda G Purchase Construction Limited â’r uned cynnal a chadw tai i gwblhau’r gwaith ar ein rhan.
Bydd gwaith sy’n cael ei wneud dan Raglen Gwaith Gwella Mewnol SATC yn cynnwys yr isod:
- gosod cegin newydd
- gosod ystafell ymolchi newydd
- gwaith ailweirio trydanol
Ni fydd yr holl waith yn cael ei wneud ym mhob cartref ac ni fydd angen gwneud unrhyw waith o gwbl ar rai cartrefi. Byddwn yn eich cynghori mewn da bryd ymhell cyn i’r gwaith gychwyn os bydd unrhyw waith gwella’n cael ei wneud yn eich cartref chi.
Pan ddaw’r cynllun i’ch ardal chi, cewch wahoddiad i ddiwrnod agored i drafod y gwelliannau a gweld samplau o’r unedau a’r gosodion y byddwn yn eu cyflenwi.
Yn fuan wedi hyn, bydd un ai G Purchase Construction neu’r uned cynnal a chadw tai yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i ymweld â chi yn eich cartref, archwilio eich eiddo, egluro’r gwaith a gynigir a chytuno nifer o ddewisiadau pan fo’n gymwys. Bydd gan bob ymwelydd gerdyn adnabod.
Gan ystyried natur y gwaith y mae modd ei wneud, rydym yn tybio y bydd yn cymryd hyd at bymtheng niwrnod i’w gwblhau os bydd yr holl welliannau a nodir uchod yn cael eu gwneud i’ch tŷ.
Mae gwaith fel hyn yn mynd i achosi peth cynnwrf ac aflonyddwch, fodd bynnag, fe wneir pob ymdrech i gadw hyn i’r lefel isaf bosibl. Dymunaf eich sicrhau y dewiswyd ein partneriaid oherwydd iddynt brofi yn y gorffennol bod ganddynt y gallu i gyflawni gwaith fel hyn yn effeithiol tra mae’r trigolion yn aros yn eu cartrefi.
Os gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r rhaglen, cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Cyfranogiad Tenantiaid ar 01248 752171 neu 01248 752166.
Mae G Purchase Construction Cyf wedi eu lleoli yn Uned 9, Parc Busnes Penrhos, Caergybi. Y rhif ffôn yw 01407 766800.
Mae Uned Cynnal a Cadw wedi eu lleoli yn Nepo Cyngor Sir Ynys Môn yn Gaerwen. Cysylltwch â 01248 421762.
Rhaglen Safon Ansawdd Cymru - cam un - diwrnod agored
Byddwch yn cael eich gwahodd i ddiwrnod agored yn eich ardal chi.
Rhaglen Safon Ansawdd Cymru - cam dau - cyfarfod archwilio
Bydd Swyddog Cyswllt Cwsmer yn ymweld â chi i drafod yn fanwl y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn eich ty.
Rhaglen Safon Ansawdd Cymru - cam tri - cyfarfod cyn cychwyn ar y gwaith
Bydd Swyddog Cyswllt Cwsmer yn ymweld â chi unwaith eto, y tro hwn bydd hi’n manylu ar yr hyn y gellwch ei ddisgwyl tra bydd y gwaith yn cael ei wneud yn eich ty.
Rhaglen Safon Ansawdd Cymru - cam pedwar - y gwaith yn cychwyn
Yn yr ymweliad cyn cychwyn ar y gwaith, byddwch yn cael gwybod am y dyddiad pryd y bydd G Purchase/UCC yn cychwyn ar y gwaith.
Rhaglen Safon Ansawdd Cymru - cam pump - trosglwyddo
Unwaith y bydd y gwaith ar eich ty wedi’i gwblhau bydd yn cael ei “drosglwyddo”.
Rhaglen Safon Ansawdd Cymru - cwestiynnau â ofynnir yn aml
Cwestiynnau â ofynnir yn aml.
Rhaglen Safon Ansawdd Cymru - lluniau o waith
Lluniau sy’n dangos y math o waith sy’n cael ei wneud dan Raglen Gwaith Gwella Mewnol SATC.




