Gwasanaethau'r Cyngor:

Tai cyngor - cynnal a chadw

Mae’r tudalen hon yn egluro yn fanwl beth yw’r gwasanaeth trwsio a ddarperir gan y cyngor a hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig i denantiaid sy’n bwriadu gwneud newidiadau i’w cartref.

Gwaith trwsio - cyfrifoldeb pwy?

Y cyngor sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gwaith trwsio i’ch ty cyngor, ond gallwch fod yn gyfrifol am dalu am ddifrod a achoswyd ar bwrpas neu drwy ddiofalwch.

Mae’r ddogfen PDF ar waelod y dudalen yn dangos pwy sy’n gyfrifol am beth.

Pan fyddwch yn adrodd am waith trwsio, cofiwch roi’r wybodaeth ganlynol:

  • enw a chyfeiriad
  • lle mae’r gwaith trwsio ag ym mha ystafell
  • disgrifiad o’r gwaith
  • pryd allwn gael mynediad i wneud y gwaith, dyddiad ac amseroedd
  • eich rhif ffôn

Pan fyddwch yn adrodd am waith trwsio, bydd yn cael ei roi mewn blaenoriaeth - gweler y ddogfen PDF i’w lawrlwytho ar ben y dudalen er mwyn darganfod lefelau blaenoriaeth ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Gwaith y mae’n rhaid i’r cyngor ei wneud yn rheolaidd

Mae’r cyngor yn gorfod gwneud archwiliad diogelwch blynyddol ar bob system wresogi, drwy gyfraith. Byddwn yn rhoi rhybudd i chi, er mwyn i ni gael trefnu mynediad i’r ty. Byddwch wedyn yn derbyn tystysgrif i ddweud ei fod yn ddiogel i’w ddefnyddio.

Gwaith cynnal a chadw cynlluniedig

Mae’r rhaglen cynnal a chadw cynlluniedig yn cael ei lunio yn dilyn arolwg o gyflwr ein tai, sydd yn cael ei gario allan gan syrfewyr siartredig.

Gall y tîm cynnal a chadw wedyn weld pa dai sydd angen gwaith gyntaf, gan ddibynnu ar y sefyllfa ariannol. Mae’r rhaglen waith yn cynnwys gwaith allanol i’r ty, fel tô, ffasias, ffenestri, drysau, ail rendro ac insiwleiddio. Mae gwres canolog a mesurau ychwanegol i insiwleiddio’r llofft yn rhan o’r cynllun yn ogystal.

Eich hawl i waith trwsio

Fel tenant sicr i’r cyngor, mae gennych yr hawl i gael gwaith trwsio wedi ei gwblhau o fewn amser penodol dan y cynllun Hawl i Drwsio.

Mae’r cynllun yn cynnwys gwaith trwsio sydd angen ei wneud ar frys, a all effeithio ar eich diogelwch, ac y cant eu gwneud yn ddi-os a phrydlon.

Os nad ydi’r contractor yn cwbwlhau y gwaith o fewn amser, dylsech ofyn wrth y cyngor am gael ail gontractor i gwbwlhau y gwaith. Os nad ydi’r ail gontractor yn cwbwlhau y gwaith, bydd rhaid i’r cyngor dalu £10 o iawndal i chi, yn ogystal a £2 am bob diwrnod rydych yn aros. Os yr ydych mewn dyled ni fydd yn rhaid i’r cyngor dalu yr iawndal i chi.

Mae’r amser sydd gan y cyngor i wneud y gwaith yn amrywio. Mae’r amser trwsio cymwys wedi ei penderfynu drwy gyfraith, nid gan y cyngor.

Efallai fod rheswm da pam nad oedd y contractor yn gallu cwbwlhau y gwaith ar amser, er enghraifft, os nad oeddech adref i gadw i’r apwyntiad ni fyddwch yn gymwys i dderbyn iawndal.

Newidiadau / gwelliannau i’ch cartref

Mae’n rhaid i chi gysylltu gyda’ch swyddog rheoli stadau os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw newid, byddant yn gallu dweud wrthych os oes angen caniatad ysgrifenedig.

Mae posib y byddwch yn gorfod talu am y gwaith i’w newid yn ôl ar ôl i chi adael.

Iawndal am welliannau

Cysylltwch â’r Adran Tai i weld pa welliannau sydd yn gymwys am iawndal cyn dychwelyd eich goriadau i’r cyngor.

Cysylltu â Gwasanaethau Tai

Gwasanaethau Tai
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ceisiadau am dai: 01248 752293 / 752294
Digartref: 01248 752168
Ymholiadau Rhent ac Yswiriant: 01248 752260
Cynnal a chadw: 01248 752230 / 752237 / 752238 Allan o oriau - 5pm - 8am ac ar y penwythnos: 01248 750057 / 07808569747
Prynu eich tŷ cyngor: (01248) 752245
Ôl-Ddyledion Rhent: (01248) 752263 Swyddfa Ardal Caergybi: (01407) 764750
Swyddogion Rheoli Stadau: (01248) 752298 Swyddfa Ardal Caergybi: (01407) 764455
Swyddog Cyfranogiad Cyswllt Tenantiaid: (01248) 752166
Ffacs: Cynnal a chadw: 01248 752243
Gwasanaethau eraill: 01248 752233
Ymholiadau cyffredinol: tai@ynysmon.gov.uk Ymholiadau cynnal a chadw: trwshio@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 14 Chwef 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?