Tai cyngor - materion tenantiaid
Eglurhad byr o’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau fel tenat.
Eich hawliau
- sicrwydd tenantiaeth; os ydych yn cadw at gytundeb eich tenantiaeth gallwch fyw yn eich cartref am weddill eich bywyd
- cewch brynu eich cartref ar ddisgownt (nid cartref sydd wedi ei addasu na thai gwarchod)
- caiff aelod o’ch teulu olynu eich tenantiaeth pan fyddwch yn marw
- cewch is-osod rhan o’ch cartref a chymryd lletywyr
- hawl i waith trwsio brys
- hawl i gael iawndal am welliannau a wnewch i’ch cartref (a gytunwyd gan y cyngor)
- hawl i gyfnewid tenantiaeth
- yr hawl i ymgynghori ar faterion sydd yn ymwneud â’ch tenantiaeth
Eich cyfrifoldebau
- cadw at reolau’r denantiaeth
- talu eich rhent
- bod yn gymydog da gan beidio ag aflonyddu tenantiaid eraill
Beth mae eich cytundeb tenantiaeth yn ei olygu
Pan rydych yn arwyddo eich cytundeb tenantiaeth, rydych yn rhan o gytundeb cyfreithiol ac y mae gennych hawliau a chyfrifoldebau. Mae’r rhai o’r hawliau hyn wedi ei gosod drwy gyfraith ac eraill wedi eu cytuno gan y cyngor, ac wedi eu cynnwys yn y cytundeb tenantiaeth.
Noder, os gwelwch yn dda: nid ydyw’r wybodaeth ar y tudalen hon yn ddogfen gyfreithiol, ei bwrpas ydyw i fod o gymorth i chi.
Defnydd o’ch eiddo
Ni ddylech ddefnyddio eich ty cyngor fel lle i redeg busnes neu unrhyw fath o weithgaredd anghyfreithlon, fel gwerthu cyffuriau. Os ydych yn bwriadu rhedeg busnes o’ch cartref, dylech gael caniatad y cyngor yn gyntaf.
Anghytuno gyda'ch cymydog
Os gallwch, ceisiwch ddatrys y broblem rhyngoch. Efallai nad ydi eich cymydog wedi sylwi eu bod yn creu niwsans. Ceisiwch drafod y mater yn rhesymol, efallai bydd hyn yn ddigon a byddwch yn cytuno ar ffordd i ddatrys y broblem.
Bod yn gymydog da
Mae eich cytundeb tenantiaeth gyda’r cyngor yn nodi yn glir na ddylech greu niwsans, gadael i aelodau o’ch teulu neu ymwelwyr greu niwsans neu aflonyddwch.
Swyddogion rheoli stadau
Mae’r swyddogion rheoli stadau wedi ei lleoli yn Llangefni a Chaergybi, ac maent yn helpu i edrych ar ôl y gymdogaeth i’r safon mae tenantiaid eisiau. Maent yn ymweld â’r stadau cyngor yn rheolaidd, gan nodi unrhyw waith trwsio, gwrando ar gwynion a delio hefo problemau.
Symud o’ch tŷ cyngor
Taflen ffeithiau Gwasanaethau Tai




