Tai cyngor - rhenti a thâliadau
Gallwch dalu eich rhent a thâl gwasanaeth yn eich Swyddfa Rhent yn Llangefni a Chaergybi, drwy Ddebyd Uniongyrchol, casglwr rhent (mewn rhai ardaloedd) neu gyda siec, arian, neu gerdyn yn y Swyddfa Bost.
Yn ogystal gellir talu eich rhent drwy galwad ffôn “touch tone”, taliadau ar linell neu wrth ddefnyddio cerdyn debyd / credyd.
Sut i dalu
Os dymunwch, cewch dalu gydag arian parod neu siec yn y brif swyddfa yn Llangefni neu’r swyddfa ardal yng Nghaergybi.
Drwy’r post - gyda siec neu archeb post yn daladwy i “Cyngor Sir Ynys Môn”, a’i yrru i’r Adran Rhenti. Peidiwch â gyrru arian parod drwy’r post, os gwelwch yn dda, ni allwn dderbyn cyfrifoldeb os aiff ar goll.
Casglwr Rhent - cesglir yn yr ardaloedd gwledig.
Debyd Uniongyrchol - gallwch drefnu i dalu eich rhent gyda debyd uniongyrchol o’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, mae ffurflenni ar gael o’r Adain Tai. Nodwch, os gwelwch yn dda, ni allwn drefnu hyn os ydi eich cyfrif mewn dyled.
Gyda cardiau credyd a debyd - Gallwch dalu mewn person yn swyddfeydd y cyngor, Llangefni neu yn swyddfa rhanbarthol Caergybi, neu wrth ffonio swyddfeydd y cyngor ar 01248 752015 adeg oriau agor rhwng 9.00 - 4.00, Dydd Llun I dydd Gwener.
Gyda ffôn “Touch Tone” - Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth drwy ffonio 0300 123 0800 ar unrhyw ffôn “touch-tone” a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ar sut i dalu. Cofiwch bydd angen eich cerdyn credyd neu ddebyd ynghyd â chyfeirnod eich cyfrif neu anfoneb. Mae’r gwasanaeth ar gael 24-awr, 7-diwrnod y wythnos. Codir tâl Gradd Cenedlaethol ar y rhif 0300 ar bob galwad yn ddifater os ydynt yn galw o linell ddaearol neu ffôn symudol.
Ni chaiff unrhyw dal(iadau) a wneir ar ôl 4.00 yp ei roi yn erbyn eich cyfrif tan (i fyny) i dri diwrnod gwaith.
Noder: Ceir rhai eithriadau. Ni fydd y system yn derbyn taliadau am Rhenti Tai ble mae’r rhif rhent yn cynnwys llythrennau alffa rhifol.
Gyda taliadau ar-linell - gallwch wneud eich taliadau ar-linell gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd: Visa, Mastercard, Maestro / Switch, Visa Delta, Electron.
Am wybodaeth ar agweddau cyfreithiol talu ar-lein gwelwch Telerau ac amodau taliadau ar linell.
Bydd eich tâl yn cymryd i fyny i 3 diwrnod gwaith i gyrraedd y cyfrif yr ydych yn gwneud tâl iddo. (Mae hyn yn cynnwys amser i wirio manylion eich cerdyn credyd/debyd gyda’r cwmni cerdyn credyd/debyd ac i’r cyngor gael ei hysbysu o’r tâl). Os yw eich tâl yn hwyr ac os yw camau adennill ar fin eu cymryd, dylech dalu gydag arian parod yn swyddfeydd y cyngor.
Os byddwch yn cael trafferth defnyddio unrhyw un o’r dulliau talu hyn cysylltwch gyda ni, os gwelwch yn dda ar 01248 752015 yn ystod oriau agor Swyddfa Llangefni 9am - 4pm neu gyda ebost: arianwyr@ynysmon.gov.uk
Newid yn yr hyn rydych yn talu yn eich rhent
Mae rhent yn cynyddu ar ddechrau’r flwyddyn ariannol yn ôl canllawiau’r Cynulliad Cenedlaethol. Byddwn yn rhoi 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig.
Os yr ydych yn derbyn budd-dal tai, gall y cyfanswm rydych yn ei dalu bob wythnos newid oherwydd bod eich cais yn cael ei adolygu neu ei newid, os ydi eich incwm yn newid.
Cael trafferth talu eich rhent?
Amod eich tenantiaeth ydyw eich bod yn talu eich rhent yn brydlon. Rydym yn dibynnu ar yr incwm i ddarparu gwasanaeth i’n holl denantiaid.
Os ydych yn cael problem, fe wnawn bob dim posib i’ch helpu. Cewch gymorth gan Shelter, Swyddfa Cynghori neu gyfreithiwr yn ogystal.
Yswiriant tŷ
Mae’r cyngor yn gyfrifol am yswirio’r adeilad rydych yn byw ynddo. Mae stoc tai’r awdurdod wedi ei yswirio, ac nid ydyw yn cynnwys eich eiddo personol chi.




