Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Tai fforddiadwy


Tai Teg

Mae Tai Teg yn gofrestr o bobl sydd gyda diddordeb mewn perchenogaeth cartref ond yn methu fforddio i brynu’n llwyr neu ar y farchnad agored. Mae cofrestru gyda Tai Teg yn hanfodol os ydych yn dymuno cael eich hystyried am gynlluniau cymorth perchenogaeth cartref ac mae dyddiad cofrestru yn cael ei ystyried wrth adnabod pobl am y cynlluniau neu eiddo sydd yn dod ar gael, felly cofrestrwch heb oedi.

Cofrestru gyda Tai Teg

I gofrestru ar lein ewch i wefan Tai Teg ar www.taiteg.org.uk neu gellwch lawrlwytho ffurflen o’r dudalen llawrlwytho. Fel arall, gellwch ofyn am ffurflen gofrestru drwy gysylltu â Tai Teg ar 0345 6015605. Mae’r ffurflen gofrestru yn hawdd a chyflym i’w chwblhau a dim ond pan mae ymgeisydd yn cael ei ystyried am gynllun prynu cartref neu eiddo y mae asesiad ariannol llawn yn cael ei wneud.

Mae wefan Tai Teg hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar gymhwyster, esboniad o’r gwahanol fathau o gynlluniau ag eiddo sydd ar gael neu fydd ar gael yn y dyfodol - cysylltu pobl gyda chyfleon perchenogi tŷ.

Mae Tai Teg yn fenter rhwng Cynghorau Sir Ynys Môn a Gwynedd a’u partneriaid yn y diwydiant tai, yn cynnwys cymdeithasau tai, gwerthwyr tai, a datblygwyr.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.