Gwasanaethau'r Cyngor:

Achredu Landlordiaid Cymru

Mae’r Cyngor yn bartner yng Nghynllun Achredu Landlordiaid Cymru (ALC).

Landlord Accreditation Wales

Caiff y cynllun ei weinyddu gan Gyngor Caerdydd ar ran y bartneriaeth, ac mae’n gynllun ar gyfer landlordiaid ar draws Cymru. Mae landlordiaid sy’n ymuno â’r cynllun ac yn cydymffurfio â’r safonau yn cael eu “achredu” a’u cydnabod fel landlordiaid da. Does dim rhaid i landlordiaid ymuno, ond mae nifer o fanteision.

Bwriad y cynllun yw codi ymwybyddiaeth landlordiaid ac asiantau o’u hawliau a’u cyfrifoldebau wrth osod eiddo. Mae’n fwy tebygol y bydd eu heiddo’n cael ei gynnal i safon uwch fel hynny; y bydd iechyd a diogelwch eu tenantiaid yn cael ei ddiogelu a’u busnesau’n cael eu hamddiffyn yn well.

Mae’r cynllun ar agor i unrhyw landlord neu asiant, yn ogystal â’r rheiny sy’n ystyried bod yn landlord. Does dim rhaid i chi fod yn berchen ar eiddo yng Nghymru i ymuno.

Mae’r Cyngor yn argymell eich bod yn dod yn aelod o’r cynllun.

Beth yw gofynion y Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru?

 Mae’r cynllun ALC yn achredu’r landlord, nid yr eiddo. Bydd angen i landlord wneud y canlynol:

  • mynychu cwrs datblygu undydd i gael y wybodaeth a’r sgiliau i’w helpu i weithredu eu busnes yn llwyddiannus
  • cytuno i ddilyn cod ymddygiad
  • bod yn berson addas a pharchus

Mae meini prawf ychwanegol ar gyfer Asiantau Gosod sydd am ymuno.

Sut all landlordiaid elwa o gael eu hachredu?

Ar wahân i gael gwybodaeth am sut i fod yn landlord da, a chael eich cydnabod fel un, mae nifer o fanteision eraill, sy’n cynnwys:

  • Marchnata ffafriol ar eich cyfer chi a’ch eiddo ar wefan y cynllun ALC.
  • Gwell mynediad i Ddigwyddiadau a Chyhoeddiadau’r Awdurdod Lleol. Bod y cyntaf i glywed am sesiynau ymwybyddiaeth a hyfforddi ychwanegol.
  • Derbyn dogfennau cefnogol Darparu Deunydd Cyfeiriol i gefnogi’r Cwrs Datblygu.
  • Rhwydwaith Gefnogi Ehangach Byddwch yn rhan o rwydwaith landlordiaid mwy.
  • Un cais sydd ei angen ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru Gan fod y cynllun ar draws Cymru gyfan, dim ond unwaith sydd raid i chi ymuno, hyd yn oed os oes gennych eiddo mewn mwy nag un sir.
  • Proffil gwell i chi a’ch busnes.
  • Buddion ariannol Gostyngiadau ar wasanaethau a chynnyrch gan ystod o gyflenwyr.

Pa fuddion sydd i denantiaid?

Bydd tenantiaid yn elwa o wybod os dewisant rentu gan landlord achrededig, bydd yr eiddo mewn cyflwr da a’r denantiaeth wedi’i rheoli i safon dda.

Sut fydd cymunedau lleol yn elwa?

Mae o fudd i bawb os yw tai yn cael eu rheoli’n well a’u cadw mewn cyflwr da. Gall y cynllun helpu i gynyddu’r cyflenwad o letyau o ansawdd da, bod o fudd i denantiaid cyfredol a darpar denantiaid nad ydynt wedi ystyried rhentu’n breifat yn y gorffennol. Mae hefyd yn helpu meithrin gwell perthynas rhwng landlordiaid a thenantiaid ac yn lleihau’r angen am ymyrraeth gan swyddogion y Cyngor.

Am ba mor hir y bydd yr achrediad yn para?

Bydd yr achrediad yn para am bum mlynedd a bydd y landlord yn cael ei ail-achredu’n syth cyhyd a’i fod:

  • heb dorri’r cod ymddygiad
  • wedi cymryd camau i wybod am newidiadau yn y gyfraith

Bydd mynychu digwyddiadau Diwrnod Landlordiaid blynyddol, fforwm landlordiaid lleol a digwyddiadau hyfforddi ychwanegol ayb yn cyfri tuag at yr ail-achredu, fel bydd aelodaeth o sefydliad landlordiaid cydnabyddedig.

Er mwyn darganfod mwy, neu i wneud cais i ymuno â’r cynllun, ewch i wefan y cynllun.

Neu cysylltwch â gweinyddwr y cynllun:

Achredu Landlordiaid Cymru   

c/o Tai Sector Preifat Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Ffôn: 029 2087 3561

Ebost: gwybodaeth@landlordiaidcymru.org.uk

Cysylltwch â'r Adain Iechyd yr Amgylchedd

Adran Amgylcheddol a Thechnegol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn:Ymholiadau cyffredinol: (01248) 752820
Email:iechydyramgylchedd@ynysmon.gov.uk

Cysylltu â Gwasanaethau Tai

Gwasanaethau Tai
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ceisiadau am dai: 01248 752293 / 752294
Digartref: 01248 752168
Ymholiadau Rhent ac Yswiriant Tŷ: 01248 752260
Cynnal a chadw: 01248 752230 / 752237 / 752238 Allan o oriau - 5pm - 8am ac ar y penwythnos: 01248 750057 / 07808569747
Ffacs: Cynnal a chadw: 01248 752243
Gwasanaethau eraill: 01248 752233
Ymholiadau cyffredinol: tai@ynysmon.gov.uk Ymholiadau cynnal a chadw: trwshio@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 26 Tach 2008 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?