Asesu risg diogelwch tân
Mae’n ofyniad cyfreithiol ar bob landlord i gynnal asesiad risg diogelwch tân ar eu heiddo a hynny’n unol â threfniadau Gorchymyn Ad-drefnu Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005.
Yn ystod y fforwm cyntaf i landlordiaid a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2007, daeth yn amlwg bod rhai o’r landlordiaid yn ansicr ynghylch sut i gynnal asesiad risg ac o ganlyniad, trefnwyd diwrnod hyfforddiant anffurfiol yn benodol i’r pwrpas hwnnw.
Trefnwyd y digwyddiad gan Adain Tai Sector Preifat Adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Ynys Môn gyda Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru yn arwain.
Yn gryno, mae’n ddyletswydd ar landlordiaid Tai Amlbreswyliaeth (TA) yn arbennig i sicrhau bod yn eu heiddo:
- ragofalon tân digonol a modd o ddianc pe digwyddai tân
- larwm tân awtomatig a system synhwyro
- gosodiadau trydan diogel
- system goleuadau argyfwng
- offer diffodd tân
Mae’r Tîm Gorfodaeth Tai yn argymell fod systemau’n cael eu gosod a’u cynnal a’u cadw’n unol â Safonau Prydeinig 5839 - 1:2002 (Dylunio, gosod, comisiynu a chynnal a chadw), 5839 - 6:2004 (Dylunio, gosod a chynnal a chadw systemau synhwyro tân a larymau tân mewn anheddau) a 5266 - 1:1998 (Goleuadau argyfwng).
Gellir cael cyngor perthnasol gan ein Tîm Gorfodaeth Tai - Tîm Gorfodaeth Tai: (01248) 752836 / 752835




