Gwasanaethau'r Cyngor:

Trwyddedu tai amlbreswyliaeth - Deddf 2004

Daeth Deddf Tai 2004 i rym o 30ain Mehefin 2006 yng Nghymru. Yn benodol, cyflwynodd newidiadau mawr i’r modd y caiff tai amlbreswyliaeth (TA) eu trwyddedu a’u diffinnio a’r modd y caiff amodau pob eiddo sydd ar gael i’w rhentio’n breifat eu hasesu.

Trwyddedu gorfodol ar gyfer TA

Mae deddfwriaeth newydd yn Rhan 2 Deddf Tai 2004 yn golygu bod raid i berchenogion, o 30 Mehefin 2006, wneud cais i’r cyngor am drwydded. Mae methiant i wneud hynny’n drosedd.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedu gorfodol, gan gynnwys arweiniad a ffurflenni cais, gweler ‘trwyddedau tai amlbreswyliaeth’.

System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai (SGIDT)

Mae’r SGIDT yn ddull asesu risg newydd a ddefnyddir i asesu peryglon posibl i iechyd a diogelwch trigolion ym mhob eiddo sydd ar gael i’w rhentio’n breifat. Mae’r SGIDT yn disodli’r hen safon addasrwydd tai a oedd wedi ei chynnwys yn adran 604 Deddf Tai 1985.

Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid - gwasanaeth gwybodaeth

Mae Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid (CGL)  wedi sefydlu gwasanaeth gwybodaeth e-bost a ffôn i helpu landlordiaid i ddeall y ddeddf tai newydd.  Gall landlordiaid sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaeth hwn anfon ebost i housingact2004@landlords.org.uk am atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml a chysylltiadau i ddogfennau sy’n ymwneud â’r Ddeddf newydd.  Gall y rheiny heb gyfleusterau e-bost ffonio 0845  052 9473 (cyfradd leol).

Cysylltwch â'r Adain Iechyd yr Amgylchedd

Adran Amgylcheddol a Thechnegol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn:Ymholiadau cyffredinol: (01248) 752820
Email:iechydyramgylchedd@ynysmon.gov.uk

Cysylltu â Gwasanaethau Tai

Gwasanaethau Tai
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ceisiadau am dai: 01248 752293 / 752294
Digartref: 01248 752168
Ymholiadau Rhent ac Yswiriant Tŷ: 01248 752260
Cynnal a chadw: 01248 752230 / 752237 / 752238 Allan o oriau - 5pm - 8am ac ar y penwythnos: 01248 750057 / 07808569747
Ffacs: Cynnal a chadw: 01248 752243
Gwasanaethau eraill: 01248 752233
Ymholiadau cyffredinol: tai@ynysmon.gov.uk Ymholiadau cynnal a chadw: trwshio@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 27 Hyd 2006 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?