Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Fforwm landlordiaid


Mae fforymau blynyddol yn cael eu cynnal er mwyn rhoddi i landlordiaid sector preifat, asiantiaid a phobl broffesiynol y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion o ddiddordeb.

Y nod yw darparu llwyfan fel y gall landlordiaid rannu eu profiadau o osod eiddo, gyda’i gilydd a chyda’r Cyngor; helpu landlordiaid i ddarparu llety o ansawdd da ym Môn; cynyddu ymwybyddiaeth o newidiadau mewn deddfwriaeth, gweithdrefnau a pholisïau ac ymateb i bryderon ac anghenion landlordiaid. 

Os ydych chi’n landlord neu’n asiant gydag eiddo ar Ynys Môn, ac os hoffech gael eich gwahodd i fforymau yn y dyfodol neu dderbyn diweddariadau ar e-bost am faterion a allai effeithio arnoch, cysylltwch â’r Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd os gwelwch yn dda. Byddwn yn trin eich manylion yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data ac ond yn eu pasio ymlaen i’r adrannau perthnasol yn y Cyngor.

Fforwm Landlordiaid 2021

Eleni, cynhelwyd y fforwm rhithiol ar ddydd Mawrth, 22 Mehefin.

Fe oedd y pynciau ar yr agenda yn cynnwys

  • Strategaeth Tai Lleol Ynys Môn 2022 i 2027
  • Diweddariad NRLA – gorchmynion troi allan
  • Grantiau Cefnogi Tai
  • Gwasanaeth Cynhwysiant Ariannol

Mae pob un o’r pynciau hyn yn cael effaith sylweddol ar y sector rhentu preifat ac felly cafodd landlordiaid eu hannog i fynychu.