Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Chwilio am lety rhent preifat


Mae cyflenwad da o lety rhent preifat ar Ynys Môn ac eiddo sydd ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd.

  • dewis - mae amrywiaeth o lety yn bodoli gyda fflatiau ar gael yn haws mewn rhai ardaloedd a thai mewn ardaloedd eraill
  • hyblygrwydd - dewiswch chi yr ardaloedd yr ydych yn dymuno eu hystyried
  • cyflymder - mae eiddo ar gael yn awr

Mae eiddo wedi eu dodrefnu a heb ddodrefn ynddynt ar gael.

Os ydych ar incwm isel gallech fod yn gymwys am Fudd-dal Tai (dolen allanol i GOV.UK yn Saesneg) i helpu dalu’r rhent.

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell Budd-dal Tai (dolen allanol i GOV.UK yn Saesneg) er mwyn cael amcangyfrif budd-dal ar unwaith neu cysylltwch gyda Thîm Budd-daliadau Tai y Cyngor.

Cofiwch bydd rhaid i chi dalu biliau eraill hefyd megis nwy, trydan a dŵr - defnyddiwch y cyfrifiannell cyllideb (dolen allanol i Helpwr Arian) i helpu i sicrhau eich bod yn gallu talu’r costau hyn.

Mae’r uchafswm o Fudd-dal Tai y gellir ei dalu yn dibynnu ar maint yr eiddo yr ydych ei angen ac mae’n cael ei osod gan gyfraddau Lwfans Tai Lleol.

Nodwch, os gwelwch yn dda,efallai na fyddwch yn derbyn yr uchafswm gan y bydd incwm eich cartref a’ch cynilion yn cael eu hystyried wrth asesu eich hawl am Fudd-dal Tai.

Os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref ac heb gynilion na digon o arian i dalu Bond, efallai y gall Gwasanaeth Opsiynau Tai Cyngor Sir Ynys Môn eich helpu.

Byddant yn asesu eich anghenion tai ac os ydych yn bodloni’r meini prawf am gymorth, gallech fod yn gymwys am fenthyciad y gellir ei ad-dalu mewn rhandaliadau sy’n addas i chi. Mae gan y gronfa hon feini prawf llym a dim ond ar gael os ydych yn byw ar Ynys Môn.

Os ydych yn talu bond arian parod/blaendal i Landlord mae’n rhaid iddynt ei ddiogleu o dan un o gynlluniau blaendal tenantiaeth awdurdodedig y Llywodraeth a’ch hysbysu o fewn 30 diwrnod o’i dderbyn pa gynllun maent wedi ei ddefnyddio.

Mae tenantiaethau yn gyffredinol yn fyrddaliad sicr am 6 neu 12 mis. Fel arfer, gellir eu hymestyn os nad ydych wedi torri telerau eich tenantiaeth.

Mae’n bwysig cofio, unwaith y bydd y cyfnod sefydlog yn dod i ben, oni bai bod tenantiaeth tymor sefydlog newydd yn cael ei roi, mae’r denantiaeth yn dal i redeg. Os ydych yn talu rhent yn fisol bydd y denantiaeth yn rhedeg o fis i fis, os ydych yn talu yn wythnosol bydd yn rhedeg o wythnos i wythnos.

Pan fydd hyn yn digwydd, bydd telerau ac amodau yr un fath ag yn eich cytundeb tenantiaeth flaenorol. Cyfeirir at y denantiaeth fel tenantiaeth ‘gyfnodol’ statudol. Cysylltwch âg Asiantaeth Cynghori os oes angen cymorth.

Os bydd y Landlord eisiau i chi adael ar ddiwedd y cyfnod penodol, mae’n rhaid iddo ef/hi roi beth bynnag 2 fis o rybudd eu bod angen meddiant.

Gallant roi rhybudd i chi unrhyw bryd yn ystod y cyfnod sefydlog, ond ni all y dyddiad maent yn ddweud maent eisiau meddiant fod cyn diwedd y cyfnod sefydlog.

Os yw’r denantiaeth ar gyfnod cytundebol neu sail cyfnod statudol, rhaid i’r dyddiad mae’r rhybudd yn dod i ben fod y diwrnod olaf o gyfnod y denantiaeth a rhaid i’r Rhybudd ddatgan fod meddiant yn ofynnol o dan Adain 21 o’r Ddeddf Tai 1988.

Nagoes. Ni all y Landlord eich hel allan heb Orchymyn Meddiant gan y Llys. Gallant wneud cais i’r Llys gychwyn achos meddiant cyn gynted ag y daw y rhybudd meddiant i ben.

Nid oes rhaid i’r Landlord roi unrhyw seiliau ar gyfer meddiannu a gallant ddefnyddio’r weithdrefn meddiant cyflym sydd hefyd ar gael iddynt.

Pan ydych yn derbyn rhybudd meddiant o dan Adain 21 o’r Ddeddf Tai 1988, dylech geisio cyngor gan y Tîm Opsiynau Tai os ydych yn poeni na allwch ddod o hyd i lety arall erbyn y dyddiad a bennir yn y rhybudd.

Mae eiddo wedi eu dodrefnu ac heb eu dodrefnu ar gael yn y mwyafrif o ardaloedd Ynys Môn. Efallai gall Furniture Reuse Network a Freecycle eich cynorthwyo gyda’ch anghenion dodrefn

Neu efallai y byddwch am gael gwybod os ydych yn gymwys am Grant Gofal Cymunedol neu Fenthyciad Cyllidebu i helpu gyda chôst dodrefn / offer cartref neu gostau eraill yn gysylltiedig â’r symudiad.

Cewch chwilio am Eiddo Rhentu Preifat sydd ar gael ar y wefan hon.

Mae’r wefan Rhentu Doeth Cymru yn rhoi manylion landlordiaid sydd wedi eu cofrestru ac os yn angenrheidiol wedi trwyddedu ac felly dylai ddarparu llety a reolir yn dda. Yn yr un modd, mae’r wefan ARLA yn darparu gwybodaeth am asiantaethau gosod sy’n bodloni safonau rheoli proffesiynol penodol.

Mae Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn yn cynorthwyo landlordiaid i cofrestru ac os yn angenrheidiol wedi trwyddedu. Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Swyddog Cyswllt Landlordiaid Preifat ar 01248 750057.

Gellwch hefyd ymweld â ‘Right Move’ sy’n rhestru eiddo rhent preifat sy’n cael eu rheoli gan asiantaethau gosod tai ar Ynys Môn neu edrych yn y Wasg lleol.