Gwasanaethau'r Cyngor:

System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai

Mae landlordiaid sy’n gosod llety preswyl yn gyfrifol am sicrhau ei fod mewn cyflwr da. Ar 30 Mehefin 2006 daeth Deddf Tai 2004 i rym yng Nghymru.

Cyflwynodd y system graddio diogelwch a iechyd tai – sef dull asesu risg newydd a ddefnyddir i bwyso a mesur risgiau posib i iechyd a diogelwch pobl sy’n byw mewn tai rhent preifat.

Defnyddir y SGIDT  i asesu peryglon posibl i iechyd a diogelwch trigolion ym mhob eiddo sydd ar gael i’w rhentio’n breifat - sef eiddo unigol sydd ar gael i’w rhentio’n breifat a thai amlbreswyliaeth (TA).  Mae’r SGIDT yn disodli’r hen safon addasrwydd tai a oedd wedi ei chynnwys yn adran 604 Deddf Tai 1985. 

Mae’r SGIDT yn nodi 29 o beryglon posib ynghyd â’r effaith y gallai pob un o’r peryglon hyn ei chael ar iechyd a diogelwch y preswylwyr cyfredol neu breswylwyr yn y dyfodol neu unrhyw ymwelwyr i eiddo.  Mae’n berthnasol i bob eiddo preswyl p’un ai’r perchennog neu denant sy’n byw ynddo.  Ar ôl derbyn cwyn, bydd raid i’r cyngor gynnal arolwg o’r eiddo i nodi unrhyw un o’r peryglon y daethpwyd o hyd iddynt yn y categorïau isod:

Tamprwydd / llwydniYmbelydreddSŵnTân
Gwres / oerni eithafolNwy tanwydd anhylosgGlendidArwynebeddau poeth
AsbestosDeunyddiau organig anweddolDiogelwch bwydCau i mewn
Cemeglion bywleiddiadGorlenwi a gofodCyflenwad dŵrFfrwydriadau
Nwyon gwenwynigPobl yn torri i mewnCwympiadauErgonomeg
PlwmGoleuadauTrydanolStrwythurol

Bydd y swyddog arolygu yn gweithio allan sgôr ar gyfer pob perygl yn seiliedig ar ddifrifoldeb pob un a’r posibilrwydd y bydd yn achosi niwed i’r preswylwyr. Mae’r asesiad yn seilieig ar y risg i’r preswylydd mwyaf bregus. Er enghraifft, mae grisiau’n fwy peryglus i’r henoed felly y nhw fyddai’r grwp mwyaf bregus yn yr achos hwn.

Yn dilyn yr archwiliad, fe roddir i’r cyngor amryw o bwerau cyfreithiol i ddelio gydag unrhyw beryglon y daethpwyd o hyd iddynt yn dibynnu ar eu difrifoldeb. Bydd y cyngor yn gallu:

  • cyflwyno rhybudd gwella sy’n mynnu bod gwaith gwella’n cael ei wneud
  • cyflwyno rhybudd gwahardd sy’n cau’r cyfan o’r eiddo neu ran ohono neu’n cyfyngu ar nifer y preswylwyr a ganiateir
  • cymryd camau brys
  • cyflwyno rhybudd ymwybyddiaeth o berygl (yn rhoi cyngor)

Bydd y pwerau newydd yn galluogi’r cyngor i weithredu pan fydd y landlord wedi methu ac erlyn am ddiffyg cydymffurfiaeth. Bydd hefyd yn fodd i ni godi ffi am gamau gweithredu ac adennill unrhyw gostau cysylltiedig.

Am ragor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Tîm Gorfodaeth Tai yn Iechyd yr Amgylchedd - Tîm Gorfodaeth Tai: (01248) 752836 / 752835.

Cysylltwch â'r Adain Iechyd yr Amgylchedd

Adran Amgylcheddol a Thechnegol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn:Ymholiadau cyffredinol: (01248) 752820
Email:iechydyramgylchedd@ynysmon.gov.uk

Cysylltu â Gwasanaethau Tai

Gwasanaethau Tai
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ceisiadau am dai: 01248 752293 / 752294
Digartref: 01248 752168
Ymholiadau Rhent ac Yswiriant Tŷ: 01248 752260
Cynnal a chadw: 01248 752230 / 752237 / 752238 Allan o oriau - 5pm - 8am ac ar y penwythnos: 01248 750057 / 07808569747
Ffacs: Cynnal a chadw: 01248 752243
Gwasanaethau eraill: 01248 752233
Ymholiadau cyffredinol: tai@ynysmon.gov.uk Ymholiadau cynnal a chadw: trwshio@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 4 Tach 2008 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?