Tai amlbreswyliaeth (TA)
Adeilad ydy TA sy’n cael ei ddefnyddio gan ragor nag un aelwyd sy’n rhannu (neu sydd heb) gyfleusterau cegin/ystafell ymolchi/toiled ac sydd ddim yn hunangynhwysol. Diffinnir aelwyd fel teulu, sef pobl sydd â pherthynas waed neu sy’n byw gyda’i gilydd fel gwr a gwraig (gan gynnwys cyplau o’r un rhyw).
Mae hyn yn cynnwys fflatiau un ystafell, tai sydd wedi eu haddasu yn rhannol yn fflatiau hunangynhwysol, hosteli a thai a fflatiau sy’n cael eu rhannu. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd rhai mathau o fflatiau hunangynhwysol hefyd yn TA.
Am ragor o wybodaeth ar TA, gan gynnwys canllawiau a ffurflenni cais, porwch drwy’r tudalennau yn yr adran hon.




