Cerbydau wedi'i gadael
-
Ynglyn â
-
Dogfennau i'w lawrlwytho
-
Gwefannau
Ni ddylid drysu cerbydau wedi eu gadael heb awdurdod â cherbydau sydd yn creu niwsans.
Er bod cerbydau sydd wedi eu gadael heb awdurdod mewn man yn creu niwsans, nid yw’n wir bod pob car sydd yn creu niwsans wedi ei adael heb awdurdod.
Dyw’r cyngor dim ond a’r gallu i ddelio â cherbydau wedi eu gadael heb awdurdod. Dyma rai pwyntiau a all fod o ddefnydd i benderfynu’r gwahaniaeth:
Cerbydau sydd yn creu niwsans:
- wedi eu parcio’n wael
- yn creu rhwystr
- yn destun anghydfod parcio ddomestig
- wedi torri ‘lawr
- heb eu trethu
Cerbydau wedi eu gadael heb awdurdod:
- wedi bod yn yr un man ers cryn gyfnod
- os nad yw’n bosib gyrru’r car
- os yw’r car wedi ei niweidio neu ei fandaleiddio
- os yw’r car heb ei drethu (nid ddylid y mater yma fod yr unig ffactor i’w gysidro)
- os oes mwsog neu wair yn tyfu ar seliau’r ffenestri neu’r drysau, yn rhoi tystiolaeth nad yw’r car wedi symud ers cryn gyfnod
- os oes ceisiadau wedi eu gwneud i gelu gwir berchennog y car drwy newid marciau adnabod ayyb
- os yw’r man ble mae’r cerbyd wedi ei adael yn awgrymu ei fod wedi ei adael heb awdurdod
- os yw’r teiars yn fflat
- os yw’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gadw pethau
Fel arfer, mae cerbydau sydd wedi eu gadael heb awdurdod yn ddiolwg ac yn gallu arwain i achosion o dor-cyfraith drwy fandaliaeth a llosgi’r cerbydau. Gyda’r posibilrwydd o gerbydau yn cael eu llosgi mae risg pellach yn bodoli o ran peryglon tân a ffrwydriaid tanwydd, yn ogystal i hyn mae llawer o beryglon yn bodoli mewn ceir sydd wedi eu llosgi a ni ddylid cyffwrdd ynddynt. Mae’r cerbydau yma hefyd yn gallu cael effeithiau negyddol pellach ar yr amgylchfyd drwy achosi hylifau peryg ayyb i lifo mewn i nentydd ac afonydd.
Sut ydw i yn adrodd am gerbyd wedi’i adael?
Am wybodaeth ar sut i adrodd am gerbyd wedi’i adael, dilynwch y ddolen isod.
Dogfen ar gyfer cerbydau wedi eu gadael
Mae’r ddogfen hon yn nodi sut y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn bwriadu delio gyda cherbydau sydd wedi eu gadael. Cyflwynir y ddogfen fel ffeil PDF - gweler y tab “dogfennau i’w lawrlwytho” ar ben y dudalen hon.
In this section
Adrodd am gerbyd wedi'i adael
Gellir adrodd am gerbyd wedi’i adael:




