Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cerbydau wedi'i gadael


Er bod cerbydau sydd wedi eu gadael heb awdurdod mewn man yn creu niwsans, nid yw’n wir bod pob car sydd yn creu niwsans wedi ei adael heb awdurdod. Dyw’r cyngor dim ond a’r gallu i ddelio â cherbydau wedi eu gadael heb awdurdod. 

  • wedi eu parcio’n wael
  • yn creu rhwystr
  • yn destun anghydfod parcio ddomestig
  • wedi torri ‘lawr
  • heb eu trethu

Cerbyd wedi'i adael yw un sydd wedi'i adael gan y perchennog nad yw'n bwriadu ei adennill.

Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i adnabod cerbyd wedi'i adael:

  • wedi bod yn yr un man ers cryn gyfnod
  • os nad yw’n bosib gyrru’r car
  • os yw’r car wedi ei niweidio neu ei fandaleiddio
  • os yw’r car heb ei drethu (nid ddylid y mater yma fod yr unig ffactor i’w gysidro)
  • os oes mwsog neu wair yn tyfu ar seliau’r ffenestri neu’r drysau, yn rhoi tystiolaeth nad yw’r car wedi symud ers cryn gyfnod
  • os oes ceisiadau wedi eu gwneud i gelu gwir berchennog y car drwy newid marciau adnabod ayyb
  • os yw’r man ble mae’r cerbyd wedi ei adael yn awgrymu ei fod wedi ei adael heb awdurdod
  • os yw’r teiars yn fflat
  • os yw’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gadw pethau


Fel arfer, mae cerbydau sydd wedi eu gadael heb awdurdod yn ddiolwg ac yn gallu arwain i achosion o dor-cyfraith drwy fandaliaeth a llosgi’r cerbydau.

Gyda’r posibilrwydd o gerbydau yn cael eu llosgi mae risg pellach yn bodoli o ran peryglon tân a ffrwydriaid tanwydd, yn ogystal i hyn mae llawer o beryglon yn bodoli mewn ceir sydd wedi eu llosgi a ni ddylid cyffwrdd ynddynt.

Mae’r cerbydau yma hefyd yn gallu cael effeithiau negyddol pellach ar yr amgylchfyd drwy achosi hylifau peryg ayyb i lifo mewn i nentydd ac afonydd.

Dadlwythwch y ffurflen PDF isod ar eich dyfais. Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, ei chadw ac yna ei hanfon trwy e-bost i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.