Gwasanaethau'r Cyngor:

Cerdded, beicio a marchogaeth

Cerdded

Llwybr Arfordirol Ynys Môn

Llwybr 125 milltir, sydd yn mynd o amgylch yr ynys. Mae’r man cychwyn swyddogol yn Eglwys Sant Cybi yng Nghaergybi, ond medrwch ddechrau neu orffen ar unrhyw bwynt ar hyd y llwybr, a gwneud cymaint neu gyn lleied ag yr ydych yn ei ddymuno. I ddadlwytho mapiau a disgrifiadau llwybr, ewch i: www.llwybrarfordirol.com

Cylchdeithiau arfordirol Ynys Môn

Dewis o 10 taith gerdded cylchol ymhob cornel o’r ynys.  I ddadlwytho mapiau a disgrifiadau llwybr, ewch i: http://www.visitanglesey.co.uk/cy-GB/cylchdeithiau_arfordirol_ynys_mn-104.aspx

Camu Allan

Teithiau cerdded wythnosol byrion ar Ynys Môn yw’r rhaglen hon sy’n addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu ac maen ffordd wych o gael awyr iach, cyfarfod phobl a gwella eich iechyd.  Mwy

Beicio

Gwybodaeth am y rhwydwaith beicio Ynys Môn wledig ac awgrymiadau diogelwch ar gyfer beicwyr.

Llwybrau beicio cefn gwlad Ynys Môn

I ddadlwytho mapiau a disgrifiadau o’r llwybrau beicio ar Ynys Môn ewch i: www.croesomon.co.uk/beicio

Marchogaeth

Am fanylion pellach am farchogaeth ar Ynys Môn ewch i: www.ynysmon.co.uk/marchogaeth

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752300
Ebost: pem@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 3 Maw 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?