Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hawliau Tramwy Cyhoeddus - cwestiynau a ofynnir yn aml


Atebion i rai cwestiynau a ofynnir yn aml.

Ar gyfer cerddwyr yn unig y mae llwybrau troed a throedffyrdd. Lleoliad yw’r unig wahaniaeth - llwybr troed yw llwybr nad yw wrth ymyl ffordd, a throedffordd yw pafin wrth ymyl ffordd. Defnyddir llwybrau troed a throedffyrdd ar gyfer cerdded yn unig ac ni chynghorir seiclwyr i ddefnyddio’r naill na’r llall oni nodir hynny ar arwyddion. Yn wahanol i’r hyn a all ddigwydd ar lwybrau troed, gall unrhyw unigolyn dros 16 mlwydd oed sy’n seiclo ar droedffordd gael cosb benodol o £20. Gall seiclwyr ddefnyddio llwybrau a nodir fel troedffyrdd neu fel llwybrau ceffylau.

Cerddwyr, marchogwyr neu seiclwyr yn unig all ddefnyddio llwybr ceffylau.  Priffordd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer cerdded, seiclo neu farchogaeth yw cilffordd ond bod hawl defnyddio arni unrhyw fath o gerbyd ag olwynion, boed yn gerbyd a dynnir gan geffylau neu gerbyd â modur.

Cyfrifoldeb tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn yw cofnodi a chynnal a chadw llwybrau a Hawliau Tramwy Cyhoeddus eraill. Nhw hefyd sy’n ymdrin â’u creu, eu harallgyfeirio a’u cau.  At hyn, mae’r tîm yn ymdrin â materion gorfodi, megis symud rhwystrau sydd ar Hawl Dramwy.

Dan gyfraith gwlad, mae gan gerddwyr, marchogwyr a gyrwyr cerbydau hawliau defnyddiwr cyhoeddus dros y cyfan o dir a ddynodir yn briffordd. Fel arfer, rhwng y gwrychoedd a’r ffensys ar naill ochr ar llall i’r gerbydlon y bydd hyn a gall y man hwn gynnwys ymylon y ffyrdd. Fodd bynnag, efallai na fydd cymaint o hawliau lle ceir cyfyngiadau, megis ar droedffordd lle mai cerddwyr yn unig sydd â hawl i’w ddefnyddio. I bob pwrpas, mae’r gofyn hwn, ynghyd â gofynion cyfreithiol eraill, yn cyfyngu ar led i ddefnyddwyr cerbydau o ran y gerbydlon wneuthuredig, yr hyn yr ydym yn ei alw’n ffordd. Gall marchogwyr groesi troedffordd yn gyfreithlon ar gyffordd neu groesfan ger ymyl y ffordd, dyweder, a marchogaeth ar hyd yr ymyl yng nghefn troedffordd os oes un.

Er hynny, mae eithriadau i hyn, er enghraifft, os oes Gorchymyn Rheoleiddio Traffig neu is-ddeddf leol sy’n gwahardd marchogwyr yn benodol rhag defnyddio ymyl y ffordd. Buasech yn ymwybodol o Orchymyn o’r fath gan y buasai arwyddion yn nodi’r gwaharddiad.