Mae’r safle hwn yn defnyddio cwcis (ffeiliau bychain sy’n cael eu cadw ar eich cyfrifiadur) ar gyfer swyddogaethau sylfaenol ac i wella eich profiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Preifatrwydd a Cwcis.. Efallai na fydd rhannau o’r safle’n gweithio’n iawn os ydych yn dewis peidio â derbyn cwcis. a wrth barhau i ddefnyddio'r safle rydych yn cytuno i'n Polisi Preifatrwydd.

Gwasanaethau'r Cyngor:

Protocol gorfodaeth A i Y

Bwriad y ddogfen hon yw bod yn arweiniad i brotocolau Cyngor Sir Ynys Môn sy’n ymwneud â materion ac ymholiadau, gan gynnwys gorfodaeth, ac a gysylltir yn aml gyda Hawliau Tramwy Cyhoeddus.  Y gobaith yw y bydd yn cynorthwyo’r cyhoedd, tirfeddianwyr, defnyddwyr llwybrau a phartïon eraill a diddordeb i ddeall yn well ryw gymaint ar y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r modd y mae’n rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn ddefnyddio’r ddeddfwriaeth yng nghyswllt amryfal faterion.

Mae effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth wrth warchod y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus a hawliau’r cyhoedd yn dibynnu, heb amheuaeth, ar y rhai hynny a reoleiddir yn cydymffurfio . Wrth greu’r arweiniad hwn a chadarnhau Protocol Gorfodaeth yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi mabwysiadu concordat canolog “Concordat ar Orfodaeth Dda” – Concordat Llywodraeth Leol.

Mae’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn hapus i roi cyngor ar faterion yn ymwneud â Hawliau Tramwy Cyhoeddus a gwybodaeth amdanynt.  Rydym hefyd yn agored ynghylch y modd yr ydym yn mynd o gwmpas ein gwaith.  Byddwn wastad yn awyddus i drafod materion cyffredinol neu broblemau penodol.  Rydym o’r farn mai atal problem yn hytrach na gorfod ei datrys sydd orau a bod ein rôl yn golygu gweithio’n egnïol gyda thirfeddianwyr a defnyddwyr.  Byddwn yn rhoi gwasanaeth cwrtais ac effeithlon a bydd y staff yn cyflwyno eu hunain i chi.  Byddant hefyd yn rhoi manylion cyswllt.  Gydag achosion lle nad oes modd datrys anghytundeb heb orfodaeth ffurfiol, byddir yn egluro unrhyw hawl apelio neu’r drefn gwyno, gyda manylion y broses a pha mor hir y bydd yn debygol o gymryd.

Bod yn arweiniad yw bwriad y ddogfen hon ac nid yn ddogfen gynhwysfawr ar ddeddfwriaeth a chyfraith achos

Hawliau Tramwy Cyhoeddus.  Mae hawl gennych geisio cyngor annibynnol a chyfreithiol ar unrhyw agwedd y mae’r llyfr hwn yn ymwneud â hi.  Nid efelychu’r cyngor hwnnw mo’i bwriad.    

Weiren Bigog

Weiren Bigog dros Hawl Dramwy Gyhoeddus:

Mae codi ffens weiren bigog neu weiren bigog amlwg ar draws hawl dramwy gyhoeddus heb ffordd ddigonol o’i chroesi yn drosedd.  Mae’n rhwystr ar y ffordd dramwy ac yn niwsans ac yn beryglus i’r cyhoedd sy’n dymuno ei defnyddio.  Y protocol y mae’r Cyngor wedi’i fabwysiadu yn hyn o beth yw, yn gyntaf, gofyn i berchennog y ffens ei symud yn syth neu, os yw’n hanfodol at ddibenion amaethyddol, sicrhau bod ffordd ddigonol o’i chroesi ar linell y llwybr.  Gyda’r olaf, bydd raid cael caniatâd y cyngor gan y byddai’n gyfystyr â strwythur newydd (gweler camfeydd a giatiau).  Os bydd y perchennog yn methu cytuno i’r naill weithred a’r llall, bydd y Cyngor yn symud y weiren bigog yn y man hwnnw ar y llwybr lle mae’n tarfu, a hynny heb rybudd pellach.  Os yw’r perchennog yn parhau i droseddu yn y modd hwn, bydd y Cyngor yn ystyried ei erlyn am rwystro. 

Deddf Priffyrdd 1980 adrannau 137 ac 149.

Weiren Bigog sy’n rhedeg ger ymyl Hawl Dramwy Gyhoeddus:

Gall ffens weiren bigog sydd ger ymyl Hawl Dramwy Gyhoeddus fod yn beryglus ac yn niwsans i’r cyhoedd.  Os yw’r Cyngor o’r farn ei bod yn beryglus i’r cyhoedd, yna mae gan y Cyngor y protocol o ofyn i’r perchennog, yn gyntaf, sicrhau bod y ffens yn ddiogel i’r cyhoedd sy’n defnyddio’r llwybr.  Os bydd y perchennog yn gwrthod neu’n methu gwneud hynny, bydd y Cyngor yn cyflwyno rhybudd cyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog symud ffynhonnell y perygl o fewn amser penodol.

Deddf Priffyrdd 1980 adran 164

Teirw ac Anifeiliaid Peryglus

Mae’n drosedd i ddeilydd tir y mae Hawl Dramwy Gyhoeddus yn ei groesi ganiatáu i darw dros 10 mis oed ac sydd ar ei ben ei hun a/neu unrhyw darw o frîd godro cydnabyddedig (hyd yn oed os oes gwartheg / heffrod yno hefyd) fod yn rhydd arno.

Eithriadau i’r rheol hon yw teirw sy’n ifancach na deg mis oed neu sydd o frîd eidion cydnabyddedig ac sy’n rhydd gyda gwartheg/heffrod.

Os bydd anifail yn achosi niwed i aelod o’r cyhoedd sy’n defnyddio Hawl Dramwy Gyhoeddus, a cheidwad yr anifail yn gwybod ei fod yn beryglus, efallai y cyflawnir tramgwydd a bod modd i’r rhai sydd wedi dioddef fynd â deilydd y tir i gyfraith.
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 adran 59.  Gweler hefyd Ddeddf Anifeiliaid 1971 adran 2.

Cnydau ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus – gweler aredig a hau

Tir Peryglus ger Hawl Dramwy Gyhoeddus

O bryd i’w gilydd, daw’r Cyngor ar draws peryglon ar dir cyfagos nad ydynt wedi’u ffensio i mewn ac sy’n beryglus i ddefnyddwyr llwybrau.  Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i warchod defnyddwyr llwybrau rhag peryglon o’r fath a bydd, yn gyntaf, yn trafod gyda pherchennog y tir cyfagos i’w annog i symud y perygl neu ei ffensio’n ddigonol.

Gall y Cyngor ei gwneud yn ofynnol i berchennog y tir peryglus wneud y gwaith angenrheidiol trwy gyflwyno rhybudd.  Os na fydd y perchennog yn cydymffurfio gyda’r rhybudd, gall y Cyngor wneud y gwaith a chael y perchennog i dalu’r costau.

Deddf Priffyrdd 1980 adran 165.

Map Swyddogol

Cofnod cyfreithiol o hawl dramwy’r cyhoedd yw Mapiau Swyddogol.  Y Cyngor sy’n gyfrifol am y Map Swyddogol.  Os dangosir ffordd ar y Map Swyddogol, yna mae’n dystiolaeth ddiamwys o hawliau cyhoeddus ar hyd y ffordd oni bu newid a ganiatawyd yn gyfreithiol.

At hyn, efallai bod hawliau cyhoeddus ychwanegol dros dir nad ydynt, hyd yn hyn, wedi’u cofnodi ar y map neu fod hawliau sydd wedi’u cofnodi’n anghywir.  Mae modd diwygio’r Map Swyddogol trwy orchymyn cyfreithiol os canfyddir bod hawliau tramwy ar goll neu gywiro camgymeriadau mewn gwybodaeth sydd eisoes wedi’i chofnodi.

Cŵn ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Caniateir cŵn ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus ond dylid eu cadw dan reolaeth agos bob amser.  Nid oes gofyn cyfreithiol ar i gi fod ar dennyn.  Mae defnyddiwr llwybr sy’n gadael i gi grwydro oddi ar yr hawl dramwy yn dresmaswr ac mae hawl gan berchenogion a deiliaid ofyn iddynt fynd oddi ar y tir.  Os yw ci yn debygol o grwydro oddi ar y llwybr neu darfu ar anifeiliaid, cynghorir y perchenogion i gadw’r ci ar dennyn.

Ffensys Trydan ar draws Hawl Dramwy

Mae gosod ffens drydan ar draws hawl dramwy gyhoeddus heb ffordd ddiogel o’i chroesi’n drosedd.  Mae’n rhwystr i’r hawl dramwy ac yn niwsans ac yn beryglus i’r cyhoedd sy’n dymuno defnyddio’r hawl dramwy.  Y protocol y mae’r Cyngor wedi’i fabwysiadu yn hyn o beth yw, yn y lle cyntaf, ofyn i berchennog y ffens drydan ei symud yn syth neu os yw’n angenrheidiol at ddibenion amaethyddol, sicrhau bod ffordd ddigonol o’i chroesi ar linell y llwybr.  Gyda’r olaf, bydd raid cael caniatâd y Cyngor gan y byddai’n gyfystyr â strwythur newydd (gweler camfeydd a giatiau).  Os bydd y perchennog yn methu cytuno i’r naill weithred a’r llall, bydd y Cyngor yn symud y weiren bigog yn y man hwnnw ar y llwybr lle mae’n tarfu, a hynny heb rybudd pellach.  Os yw’r perchennog yn parhau i droseddu yn y modd hwn, bydd y Cyngor yn ystyried ei erlyn am rwystro. 
Deddf Priffyrdd 1980 adrannau 137, 137Z, a 149.

Ffensys Trydan ger ymyl Hawl Dramwy Gyhoeddus

Gall ffens drydan sy’n rhedeg ger ymyl Hawl Dramwy Gyhoeddus fod yn beryglus ac yn niwsans i’r cyhoedd.

Os yw’r Cyngor o’r farn ei bod yn beryglus i’r cyhoedd, yna mae gan y Cyngor y protocol o ofyn i’r perchennog, yn gyntaf, sicrhau bod y ffens yn ddiogel i’r cyhoedd sy’n defnyddio’r llwybr.  Os bydd y perchennog yn gwrthod neu’n methu gwneud hynny, bydd y Cyngor yn cyflwyno rhybudd cyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog symud ffynhonnell y perygl o fewn amser penodol.

Deddf Priffyrdd 1980 adran 165

Ymyraethau

Pan geir ymyrraeth neu honnir y cafwyd un, mae dyletswydd ar y Cyngor i ymchwilio a byddir yn cymryd y camau a ganlyn.

Ystyrir a gafwyd y cyfryw ymyrraeth ac a yw’n cael effaith fawr ar y llwybr neu a all wneud hynny yn y dyfodol.  Efallai y bydd raid gwneud gwaith ymchwil sylweddol yn cynnwys ymchwil hanesyddol i sefydlu hyd cyfreithiol y briffordd (gweler hyd hawliau tramwy cyhoeddus).  Os bydd y Cyngor yn fodlon y bu ymyrraeth ond nad yw’n cael effaith fawr ar y llwybr nac ar hawliau’r defnyddwyr, gallai’r Cyngor edrych arno yn ‘de minimis’ “rhaid iddo fod yn ddifrifol yn llygaid y gyfraith”. Dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i’r unigolyn sy’n gyfrifol ei fod yn gweithredu’n anghyfreithlon ac os bydd yn parhau i ymyrryd, cymrir camau gorfodi i gael symud yr ymyraethau.

Os bydd y Cyngor yn fodlon bod yr ymyrraeth yn cael effaith fawr ar yr hawl dramwy a hawliau defnyddwyr, byddir yn cymryd y camau a ganlyn i’w symud.  Yn gyntaf, tynnir sylw’r unigolyn sy’n gyfrifol at yr amgylchiadau a gofynnir iddo symud yr ymyrraeth o fewn cyfnod rhesymol, i’w bennu gan y Cyngor.  Os na fydd hyn yn arwain at symud yr ymyrraeth, bydd y Cyngor yn dechrau camau gorfodi yng nghyswllt y rhwystr (gweler rhwystrau).

Giatiau – gweler Camfeydd a Giatiau

Gwrychoedd a Choed ger Hawliau Tramwy Cyhoeddus  (gweler hefyd Ganghennau ar draws Hawl Dramwy Gyhoeddus)

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, nid yw cyfrifoldebau’r Cyngor yn ymestyn i gynnal a chadw gwrychoedd a choed wrth ymyl hawliau tramwy cyhoeddus.  Os yw gwrych yn ymestyn dros Hawl Dramwy Gyhoeddus neu’n ei rhwystro, mae hawl gan y Cyngor gael gwared â chymaint o’r gordyfiant fel nad yw’n rhwystr i gerddwyr a marchogwyr ceffylau.  At hyn, mae pŵer gan y Cyngor i’w gwneud yn ofynnol i berchenogion gwrychoedd sy’n ymestyn drosodd docio’r gwrychyn neu ei dorri’n ôl cyn pen 14 diwrnod.
Deddf Priffyrdd 1980 adran 154.

Os yw cilffordd sy’n agored i unrhyw draffig neu gilffordd gyfyngedig yn cael ei difrodi oherwydd nad yw’n cael golau nac aer oherwydd yr holl wrychoedd a choed gerllaw, mae pŵer gan y Cyngor i geisio gorchymyn gan Lys yr Ynadon i’w gwneud yn ofynnol i’r perchennog dorri digon ohono’n ôl i atal difrod o’r fath.  Fodd bynnag, cyn defnyddio’r pŵer hwn, bydd y Cyngor yn trafod y mater gyda’r tirfeddianwyr ac yn gofyn am i’r gwrychoedd neu’r coed gael eu torri’n ôl neu’n cytuno i wneud y gwaith ar y cyd gyda’r perchenogion fel rhan o brosiect mwy.
Deddf Priffyrdd 1980 adran 136.

Cyfrifoldeb tuag at Ddefnyddwyr Llwybrau

Tirfeddianwyr:

Gall perchenogion a deiliaid tir y mae Hawliau Tramwy yn ei groesi fod yn gyfrifol am anafiadau a achosir i ddefnyddwyr llwybrau oherwydd esgeulustod y perchennog neu’r deilydd.  Er enghraifft, pe byddai camfa yn disgyn dan gerddwr, neu ddefnyddiwr llwybr yn cael ei anafu gan ffens drydan ar draws llwybr, yna gallai’r sawl a ddioddefodd hawlio iawndal oddi wrth ddeilydd y tir.
Deddf Atebolrwydd Deiliaid 1957

Cyngor Sir Ynys Môn:

Fel yr Awdurdod Priffyrdd, mae’r Cyngor yn gyfrifol am wyneb yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus a strwythurau ar briffyrdd, megis pontydd a waliau cynnal.  Mewn amgylchiadau penodol, bydd y Cyngor yn gyfrifol am anaf a achosir i unigolion sy’n defnyddio Hawl Dramwy os yw’r anaf yn sgìl esgeulustod i wyneb y llwybr.

Arwyddion a Rhybuddion Camarweiniol a Godir ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Gall arwyddion camarweiniol ac anghyfreithlon gadw pobl rhag defnyddio’n gyfreithlon eu hawl i ddefnyddio llwybrau ac mae gan y Cyngor y ddyletswydd i atal digwyddiadau o’r fath.  Gall y Cyngor symud arwyddion a godir ar Hawl Dramwy.  Mae modd ymdrin ag arwyddion sy’n cael effaith ar Hawl Dramwy er eu bod ar dir cyfagos wrth wneud cais i Lys yr Ynadon.  Gall yr Ynadon roi dirwy neu orchymyn i’r tramgwyddwr symud yr arwydd a chodi am bob diwrnod y mae’n parhau heb ei symud. 
Deddf Priffyrdd 1980 adran 132.  Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i’r Cefn Gwlad 1949 adran 57.

Rhwystrau ac Ymyraethau

Rhwystrau ac Ymyraethau sy’n Hawdd eu Symud:

Mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i symud yr holl rwystrau a’r ymyraethau i hawliau tramwy cyhoeddus (Deddf Priffyrdd 1980).  Mae gan y Cyngor hawl gyffredin i symud unrhyw beth y cred sy’n rhwystr, yn beryglus neu’n ymyrraeth, a hynny heb ymgynghori gydag unrhyw barti arall.

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn brotocol o ymdrin â rhwystrau trwy,  yn gyntaf, ymgynghori gyda’r tramgwyddwr a gofyn iddo symud y rhwystr.  Gan ddibynnu ar amgylchiadau, rhoddir saith diwrnod, fel arfer, i dramgwyddwyr gydymffurfio.  Bydd y rhybudd anffurfiol hwn yn cael ei gadarnhau’n ysgrifenedig.  Wedi’r cyfnod hwn, pe byddai’r tramgwyddwr wedi methu cydymffurfio, cyflwynir rhybudd cyfreithiol ffurfiol yn ei gwneud yn ofynnol i’r tramgwyddwr symud y rhwystr o fewn amser penodol.  Unwaith y bydd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben, bydd y Cyngor yn symud y rhwystr ac yn adfer costau oddi wrth y tirfeddiannwr. Mae gan y Cyngor brotocol o ystyried erlyn am rwystro yng nghyswllt unrhyw drosedd wedi hynny yn ogystal â chymryd y camau gweithredu a nodir uchod.
Deddf Priffyrdd 1980 adran 143.

Rhwystrau ac Ymyraethau sydd yno Erstalwm:

Deuir ar draws rhwystrau ar hawliau tramwy cyhoeddus yn rheolaidd.  Mae’r rhwystrau wedi digwydd oherwydd anwybodaeth y tirfeddiannwr a/neu fethiant y broses gynllunio.  Yn wir, mae nifer o’r rhwystrau’n hanesyddol ac wedi’u hetifeddu gan y perchenogion cyfredol.  Dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Cyngor yn ymdrin â’r broblem fel a ganlyn:

-Lle mai bychan yw’r rhwystr, rhaid i’r perchennog ei symud.  Os bydd y perchennog yn methu symud y rhwystr o fewn cyfnod y cred swyddogion y Cyngor sy’n rhesymol, byddir yn cymryd camau gorfodi gan ddefnyddio pwerau sydd ar gael dan adran 143 Deddf Priffyrdd 1980, ac yn symud y rhwystr.  Fel arfer, bydd costau’r gwaith gorfodi’n cael eu hadfer oddi wrth y tramgwyddwr.  Os digwydd y drosedd eto, ystyrir erlyn y tramgwyddwr.  At hyn, bydd y Cyngor yn ystyried cais i arallgyfeirio’r llwybr unwaith y bydd y rhwystr wedi’i symud.

-Lle bo’r rhwystr yn sylweddol ac y byddai’n gostus ac yn anymarferol i’w symud, gofynnir i’r perchennog wneud cais i arallgyfeirio’r llwybr yn hytrach na symud y rhwystr.  Bydd y Cyngor yn disgwyl y bydd y perchennog yn sicrhau bod llwybr arall ar gael hyd nes y bydd y broses arallgyfeirio wedi’i chwblhau.

-Os yw’r perchennog yn methu cydnabod y broblem neu’n peidio â chydweithredu gyda’r Cyngor i ddatrys y sefyllfa un ai trwy arallgyfeirio’r llwybr neu symud y rhwystr, yna dylid rhoi pwys mawr i’r methiant hwn.  Dan amgylchiadau o’r fath, dylid ystyried erlyn a cheisio gorchymyn ynadon i symud y rhwystr.

-Os yw cais i arallgyfeirio llwybr yn methu, yna byddai’r Cyngor yn disgwyl y bydd y perchennog yn sicrhau bod y llwybr gwreiddiol ar gael.  Os bydd y perchennog yn methu gwneud hyn, yna byddai’r Cyngor yn ystyried erlyn a cheisio gorchymyn ynadon i symud y rhwystr.

Rhwystrau sy’n fwy Diweddar:

O bryd i’w gilydd ceir rhwystrau yn ystod gwaith datblygu neu oherwydd y cyfryw waith.  Yn aml iawn, mae’r tramgwyddwr wedi cael cyngor gan y Cyngor a swyddogion cynllunio ond wedi dewis ei anwybyddu.  Dan amgylchiadau o’r fath, dylid rhoi mwy o bwys i ymddygiad y tramgwyddwr cyn ystyried unrhyw gynnig i arallgyfeirio’r llwybr. 

Ymdrinnir â rhwystrau sy’n hawdd eu symud trwy gymryd camau gorfodi uniongyrchol yn syth gan ddefnyddio pwerau sydd ar gael dan adran 143 Deddf Priffyrdd 1980 a symud y rhwystr.  Fel arfer, bydd cost y camau gorfodi’n cael eu hadfer oddi wrth y tramgwyddwr a dylid ystyried ei erlyn.

-Lle bo’r rhwystr yn sylweddol ac y byddai’n gostus ac yn anymarferol i’w symud, yna dylid ystyried erlyn a cheisio gorchymyn ynadon er mwyn symud y rhwystr.
Deddf Priffyrdd 1980 adran 137 ac 137A.

Aredig a Chnydau ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Aredig:

Dan rai amgylchiadau, mae hawl gan ddeiliaid tir i aredig Hawliau Tramwy Cyhoeddus os nad yw’n rhesymol ac yn hwylus i’w hosgoi.  Mae hyn yn berthnasol i lwybrau troed neu i lwybrau ceffylau ar draws caeau’n unig.  Ni ddylid fyth aredig hawliau tramwy cyhoeddus sydd ar hyd ymyl caeau, Cilffyrdd Cyfyngedig ar draws caeau na Chilffyrdd sy’n agored i unrhyw draffig.

Lle bo llwybr troed neu lwybr ceffyl ar draws cae yn cael ei aredig, rhaid iddo gael ei adfer ‘o fewn y cyfyngiad amser statudol’, fel arall byddir yn troseddu.  Ystyr adfer yw nodi hyn ar y ddaear a gwneud yr wyneb yn rhesymol hwylus i’r cyhoedd ei ddefnyddio, a hynny i ddim llai na’r lled sylfaenol statudol.  Yng nghyswllt llwybrau troed, 1m yw’r lled sylfaenol a 2m ar gyfer llwybrau ceffyl.  14 diwrnod yw’r ‘cyfyngiad amser statudol’ yng nghyswllt tarfu ar y cylch cnydau am y tro cyntaf a phedair awr ar hugain ar gyfer unrhyw darfu pellach, megis llyfnu a drilio.
Deddf Hawliau Tramwy 1990 adran 134.

Cnydau:

Pan fo cnwd (ac eithrio gwair) wedi’i blannu neu ei hau ar y tir y mae Hawl Dramwy Gyhoeddus yn ei groesi, mae dyletswydd ar y deilydd i sicrhau bod y llinell ar ddaear yr Hawl Dramwy Gyhoeddus wedi’i nodi i ddim llai na’r lled sylfaenol (1m ar gyfer llwybrau troed a 2m ar gyfer llwybrau ceffyl).  At hyn, mae dyletswydd ar y deilydd i rwystro’r cnwd rhag ymestyn i’r lled hwnnw trwy gydol y tymor tyfu.  Mae methu cyflawni’r ‘r ddyletswydd hon yn dramgwydd troseddol.
Deddf Hawliau Tramwy 1990 adran 137A.

Gweithredu’r protocol aredig a chnydau:

Mae tarfu ar hawliau Tramwy Cyhoeddus trwy aredig a hau yn broblem ac mae’r Cyngor wedi mabwysiadu’r protocol a ganlyn i ymdrin ag o:
Am drosedd gyntaf, bydd y Cyngor yn egluro’r gyfraith i’r tramgwyddwr ac yn cyflwyno rhybudd cyfreithiol ffurfiol i’r tramgwyddwr fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo adfer y llwybr cyn pen saith diwrnod.  Os nad yw’r llwybr wedi’i adfer yn foddhaol, bydd y Cyngor yn gwneud y gwaith angenrheidiol gyda chontractwyr ac yn adfer costau oddi wrth y tramgwyddwr.

Pan fo tramgwyddwr yn aildroseddu wedi i rybudd cyfreithiol ffurfiol gael ei gyflwyno iddo, bydd y Cyngor, unwaith eto, yn cyflwyno rhybudd cyfreithiol iddo a, hefyd, yn ystyried erlyn y tramgwyddwr.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Ar hyn o bryd, ceir pedwar categori o Hawliau Tramwy Cyhoeddus:
• Llwybrau Cyhoeddus - lle bo gan y cyhoedd hawl dramwy ar droed ac mewn cerbyd i’r anabl 
• Llwybrau Ceffyl Cyhoeddus - lle bo gan y cyhoedd hawl dramwy ar droed, ar geffyl, yn arwain ceffyl, gyda cherbyd i’r anabl ac ar feic.
• Cilffyrdd Cyfyngedig - lle bo gan y cyhoedd hawl dramwy ar droed, ar geffyl, yn arwain ceffyl, gyda cherbyd i’r anabl, ar feic a chan gerbyd a dynnir gan geffylau.  At hyn, gellir bod hawliau cerbydol llawn.
• Cilffyrdd sy’n Agored i unrhyw Draffig - lle bo gan y cyhoedd hawl dramwy ar droed, ar geffyl, yn arwain ceffyl, mewn cerbyd i’r anabl ac ar feic, mewn cerbyd â modur neu mewn cerbyd heb fodur ac wrth yrru anifeiliaid.

Fel priffyrdd cyhoeddus, mae gan Hawliau Tramwy Cyhoeddus yr un warchodaeth a roddir gan y Ddeddf Priffyrdd â “ffyrdd go iawn”.  Rhoddir iddynt, hefyd, warchodaeth ychwanegol gan ddeddfwriaeth arall, sef Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i’r Cefn Gwlad 1949, Deddf Cefn Gwlad 1968, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn

Ni sydd yn cadw’r Map a’r Datganiad Swyddogol ar gyfer Môn, sef y cofnod cyfreithiol o’r holl hawliau tramwy cyhoeddus a gofnodir yn y Sir ac ni sy’n ymdrin â newidiadau i’r Map Swyddogol.  Rydym hefyd yn ymdrin â gorchmynion yng nghyswllt llwybrau cyhoeddus o ran arallgyfeirio, creu a chau llwybrau.  Paratoesom gynllun gwella hawliau tramwy ar gyfer Môn ac ni sy’n cynnal y Mynediad lleol.  Ni hefyd sy’n hyrwyddo rhwydwaith y llwybrau ledled y Sir trwy gyhoeddi gwybodaeth a chynnal ein safle gwe.

Ni sy’n gyfrifol am gynnal a chadw rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus a’i warchod, a hynny trwy gymryd camau i symud rhwystrau ac ymdrin ag unrhyw darfu ar hawliau defnyddwyr llwybrau.  Ni hefyd yw’r Awdurdod Mynediad i Fôn gyda chyfrifoldeb i reoli mynediad i dir sydd â mynediad wedi’i chofrestru yn y Sir.

Rhaff ar draws Llwybr

Lle bo rhaff wedi’i rhoi ar draws hawl dramwy gyhoeddus, bydd swyddogion yn symud y rhaff ac yn cysylltu â’r perchennog.  Os bydd symud y rhaff yn peri i anifeiliaid grwydro, yn hytrach na’i symud yn syth, byddir yn cysylltu â’r tirfeddiannwr ac yn gofyn iddo ei symud. Bydd methu cydymffurfio â’r cais i symud y rhaff neu os bydd y drosedd yn digwydd eto ar ôl iddi gael ei symud a’r Cyngor yn cysylltu â’r tirfeddiannwr, bydd y Cyngor yn ystyried erlyn y tramgwyddwr.  Bydd y Cyngor hefyd yn symud y rhaff os bydd swyddogion yn ei gweld wedi hynny.
Deddf Priffyrdd 1980 adran 162.

Camfeydd a Giatiau

Dyletswydd y tirfeddiannwr yw sicrhau y cedwir unrhyw gamfeydd a giatiau mewn cyflwr da.  Dyletswydd y Cyngor yn unig yw sicrhau bod y tirfeddiannwr yn cydymffurfio gyda’r hanfod hwn a rhoi grant o 25% tuag at atgyweirio strwythurau o’r fath.

Mae disgresiwn gan y Cyngor i ymestyn y grant hwn a bydd, dan amgylchiadau arferol, yn rhoi’r deunyddiau i’r tirfeddiannwr yn rhad ac am ddim

Bydd y grant hwn yn cael ei dynnu’n ôl os bydd tirfeddianwyr yn methu cydweithredu neu’n rhwystro hawliau tramwy eraill.
Deddf Priffyrdd 1980 adran 146.

Os bydd deilydd tir yn dymuno gosod giatiau ychwanegol ar lwybrau troed neu lwybrau ceffyl rhaid iddo wneud cais i’r Cyngor am ganiatâd trwy ddefnyddio ein ffurflen gais A147. Ni roddir caniatâd am gamfeydd ychwanegol.  Mae codi camfeydd neu osod giatiau heb ganiatâd yn rhwystr anghyfreithlon ac yn dramgwydd troseddol (gweler rhwystrau). Yr unig amser y gall y Cyngor roi caniatâd i godi giât newydd yw pan fo gofyn cael y strwythur i rwystro anifeiliaid rhag dod ar dir amaethyddol a mynd oddi arno.

Deddf Priffyrdd 1980 adran 147.

Nid oes modd codi camfeydd at ddibenion diogelwch nac at unrhyw ddiben arall ac mae modd eu hystyried yn rhwystrau i’r briffordd (gweler rhwystrau).  Nid oes modd gosod giatiau ychwanegol ar Gilffyrdd Cyfyngedig na Chilffyrdd sy’n agored i unrhyw draffig.

Lle bo giât cae yn croesi Hawl Dramwy Gyhoeddus sydd wedi’i hamgáu (e.e. lôn fach sydd wedi’i hamgáu gan wrychoedd) ni ddylai ei chloi ar unrhyw adeg os oes camfa neu giât wrth ei hochr.  Fel arfer, ystyrir cloi giât cae  yn rhwystr i’r briffordd ac ymdrinnir â hyn i’r perwyl hwnnw.

Fodd bynnag, mae eithriad i hyn.  Os yw’r llwybr dan sylw yn arwain yn uniongyrchol i briffordd gerbydau a bydd cloi’r giât yn rhwystro anifeiliaid rhag dianc i’r ffordd, ni fyddir yn cymryd camau yng nghyswllt cloi’r giât ar yr amod bod ffordd arall o gael mynediad, megis giât fochyn neu giât i gerddwyr wrth ei hochr.

Yr Wyneb

“Perchennog” yr wyneb, Cyngor Sir Ynys Môn, yw’r Awdurdod Priffyrdd ac, fel y cyfryw, yn gyffredinol *, “breinir” wyneb unrhyw Hawl Dramwy Gyhoeddus yn y Cyngor.  O’r herwydd, y Cyngor sy’n berchen ar y wyneb yn y rhan fwyaf o achosion. (*Gweler isod Amgáu Hawl Dramwy Gyhoeddus).

“Difrodi’r” wyneb; Nid oes gan fwyafrif yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus wyneb wedi’i rwymo nac wyneb metel ac, fel y cyfryw, mae posib iddynt gael eu difrodi gan gerbydau â modur.

Mae’n drosedd ymyrryd ag wyneb Hawl Dramwy Gyhoeddus ar draul defnyddwyr.  Golyga hyn na all y tirfeddiannwr/deilydd y tir godi na, hyd yn oed, ailwynebu Hawl Dramwy Gyhoeddus heb ganiatâd y Cyngor. Rhaid i dirfeddianwyr/deiliaid sicrhau na fyddant yn difrodi wyneb y llwybr wrth ddefnyddio’r llwybr yn breifat, er enghraifft gyda cherbydau â modur. Os achosir difrod rhaid i’r tirfeddiannwr/deilydd ei adfer. (gweler hefyd Aredig)

Sut bydd y Cyngor yn ymdrin â’r drosedd hon; Os yw’n drosedd gyntaf, bydd y Cyngor yn egluro’r gyfraith i’r tramgwyddwr ac yn ei gynghori ynghylch adfer yr wyneb. Yna, rhoddir i’r tramgwyddwr gyfnod * penodol i adfer yr wyneb wrth fodd y Cyngor. *Bydd y cyfnod a roddir wrth ddisgresiwn y Swyddog dan sylw a bydd yn ddibynnol ar faint y difrod a’r gwaith y mae gofyn amdano. Os oes perygl i’r cyhoedd, bydd gofyn adfer yr wyneb yn syth.

Os bydd y tramgwyddwr yn methu adfer y llwybr neu os yw’r gwaith adfer yn anfoddhaol, byddir yn cyflwyno rhybudd yn rhoi cyfnod rhesymol i adfer yr wyneb yn iawn.  Os methir cydymffurfio gyda’r rhybudd, bydd contractwyr y Cyngor yn gwneud y gwaith gyda’r tramgwyddwr yn talu’r costau.

Os bydd y drosedd yn digwydd eto, bydd y Cyngor yn cyflwyno rhybudd ffurfiol yn syth gan ei gwneud yn ofynnol adfer yr wyneb.  Bydd hefyd yn ystyried erlyn y tramgwyddwr.

Amgáu Hawl Dramwy Gyhoeddus; Lle bo Hawl Dramwy gyhoeddus yn croesi tir nad oedd yn flaenorol wedi’i amgáu a bod y tirfeddiannwr/deilydd y tir yn amgáu ei dir e.e. trwy godi ffens neu blannu gwrych ar hyd ymyl y llwybr, daw yna’n gyfrifol am gynnal a chadw wyneb y llwybr.  Bydd hefyd yn gyfrifol os digwydd damwain oherwydd problemau gyda’r wyneb.

Os amgaeir llwybr fel hyn, yn enwedig felly os bydd y llwybr yn mynd yn gul iawn, mae modd cael problemau, gyda chyflwr yr wyneb yn gwaethygu’n sydyn iawn.  Os bydd cyflwr yr wyneb yn gwaethygu bydd gofyn i’r tirfeddiannwr/deilydd y tir ei unioni er enghraifft trwy wneud wyneb gwell, wneud gwaith draenio neu gynyddu’r lled sydd ar gael.

Canghennau bach a mawr Goed sydd ar draws Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Os oes cangen coeden wedi syrthio ar draws Hawl Dramwy Gyhoeddus mewn modd fel bod y ffordd yn cael ei rhwystro, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu’r protocol a ganlyn.  Bydd yn cysylltu â pherchennog y goeden ac yn gofyn am i’r gangen gael ei symud o fewn amser a bennwyd.  Os yw’r perchennog yn methu cydymffurfio gyda’r cais hwn, bydd y Cyngor yn cyflwyno rhybudd i’r perchennog yn rhoi gwybod iddo am ei fwriad i symud y gangen a hawlio’r costau yn ôl gan yr unigolyn. 
Deddf Priffyrdd 1980 adran 150 (4) (c).

Lled Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Nid oes rheol gyffredinol sy’n berthnasol i led Hawliau Tramwy Cyhoeddus.  Mater i’w bennu ar bob achlysur yw lled yn seiliedig fel a ganlyn:  Efallai bod y lled wedi’i nodi mewn dogfen hanesyddol neu efallai mai’r hyn ydyw yw lled y ffordd rhwng terfynau megis gwrychoedd neu ffensys.  Fel arall, y lled yw’r hyn y mae’r cyhoedd wedi’i weld erioed.  Yn absenoldeb yr hyn a grybwyllwyd eisoes, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol bod lled resymol ar gael a fuasai’n ddigonol i ddau ddefnyddiwr basio.  Gyda llwybr troed, gall hyn fod yn ddau fedr; gyda llwybr ceffyl gall fod yn dair medr a chyda chilffordd gall fod yn bum medr. 

Mae ymyrryd â lled Hawl Dramwy Gyhoeddus yn rhwystr ac yn dramgwydd troseddol a bydd y Cyngor yn ymdrin â rhwystrau anghyfreithlon yn unol â phrotocolau (gweler hefyd Ymyraethau, Rhwystr a Gorfodaeth).

Nid yw lled sylfaenol statudol yn berthnasol i’r holl Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac eithrio mewn perthynas ag aredig ac adfer ar ôl aredig.  Mae’r rhain fel a ganlyn (gweler hefyd aredig a chnydau).

                                                  Ymyl y cae            Ar draws y cae
Llwybr troed                                1.5m                             1m
Llwybr ceffyl                               3m                                2m
Cilffordd gyfyngedig a                3m                                3m

Chilffordd sy’n agored i

unrhyw draffig
Deddf Hawliau Tramwy 1990 Atodlen 12A   

Cyswllt

Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus
01248 752367
hawliautramwy@ynysmon.gov.uk

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752300
We welcome calls in Welsh or English
Ebost: priffyrdd@ynysmon.gov.uk

Gwybodaeth ddefnyddiol

This page and associated documents are available in English. Please use the "English " link on the right hand side of the top bar.

Diweddariad diwethaf: 24 Tach 2014 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?