Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyrbiau Is


Byddwch angen cysylltu â'r Adran Gynllunio i wirio a oes angen caniatâd cynllunio.

Bydd pob mynediad at ffyrdd wedi'u dosbarthu angen caniatâd cynllunio ynghyd â'r rhai hynny sydd heb hawliau caniatâd cynllunio. Ni fyddwn yn caniatáu mynedfa newydd nes y rhoddir caniatâd cynllunio ble mae'r Adran Gynllunio yn mynnu hyn.

Nid yw adeiladu cyrb is tu allan i'ch eiddo yn rhoi unrhyw hawliau penodol i chi, heblaw am i yrru dros y droedffordd i gael mynediad i'ch eiddo. Mae'r groesfan yn rhan o'r briffordd gyhoeddus.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.