Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rheoli'r risg o lifogydd yn lleol


Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn nodi’r angen i Gynghorau Sir arwain ar gydlynu’r gwaith o reoli risg llifogydd ar gyfer dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr arferol yn eu hardaloedd.

Mae’r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol yn dechrau pennod newydd ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol yn Ynys Môn a fydd yn gweithio tuag at ddeall a rheoli’r risg o lifogydd yn y Sir. Mae’n amlygu’r camau sydd i’w cymryd er mwyn gwella ymwybyddiaeth o risg llifogydd ar yr ynys, er mwyn cydweithio’n well â sefydliadau a’r cyhoedd er mwyn gallu lleihau’r risgiau hynny gyda’r nod o gydbwyso anghenion cymunedau, yr economi a'r amgylchedd. Bydd y strategaeth hon yn amlygu’r camau sydd i’w cymryd er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.    

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yn edrych yn bennaf i fynd i’r afael â’r ‘risg o lifogydd yn lleol’, h.y. llifogydd gan ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr arferol megis ffosydd a nentydd.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cymryd camau er mwyn adnabod ardaloedd ar draws Ynys Môn lle mae risg o lifogydd ac er mwyn cydweithio â’r Awdurdodau Rheoli Risg o Lifogydd, rhanddeiliaid a’r cyhoedd i rannu data ac adnoddau er mwyn lleihau’r risg o lifogydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n parhau i fod yn gyfrifol am lifogydd yn y prif afonydd ac mae’r Ddeddf yn nodi bod angen iddynt ddatblygu, cynnal a gweithredu’r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordirol.

Rhan bwysig o’r Strategaeth Leol yw sicrhau bod cymunedau yn ymwybodol o’r risgiau sy’n bodoli, cyfrifoldebau’r Cyngor ac Awdurdodau Rheoli Risg eraill am y risg o lifogydd a beth all cymunedau ei wneud er mwyn cynnwys eu hunain yn broses. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.