Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Biniau graean


Rydym yn gyfrifol am  o gwmpas 219 o finiau graean ledled Ynys Môn. Rydym wedi eu rhoi mewn llefydd lle rydym yn gwybod y gall fod problemau, megis bryniau serth, corneli siarp a chyffyrdd anodd.

Ar gais gan gyngor bwrdeistref, cyngor rhanbarth neu gyngor plwyf byddwn yn ystyried cyllido’r ddarpariaeth gychwynnol o finiau graeanu ond dim ond ar gyfer ffyrdd nad ydynt yn cael eu graeanu gan y Cyngor. Ystyrir ceisiadau ar sail blaenoriaeth ar gyfer :

  • ffyrdd gyda dringfeydd serth, troadau drwg, draeniad gwael
  • ffyrdd problemus, safleoedd noeth neu gyffyrdd anodd
  • ffyrdd a ddefnyddir yn helaeth gan bobl hyn a thrigolion sy’n ei chael hi’n anodd symud o gwmpas neu blant ifanc iawn.
  • ffyrdd mewn ardaloedd gwledig sy’n arwain at eiddo mewn mannau diarffordd
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.