Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyngor ar yrru yn ystod y gaeaf


Gall amodau tywydd eithafol a ffyrdd rhewllyd gwneud gyrru yn fwy anodd, yn enwedig yn y gaeaf. Trwy ddilyn y cyngor canlynol gallwch helpu i wneud eich taith yn fwy diogel ac yn lleihau oedi i bawb.

  • Arafwch
  • Teithiwch ar gyflymder y gellwch stopio o fewn y pellter y gallwch ei weld ei fod yn glir. Ceisiwch osgoi brecio a chyflymu sydyn, neu droi’r llyw yn siarp
  • Arafwch bob amser yn llyfn ac mewn digon o amser ar lefydd llithrig
  • Arafwch mewn digon o amser cyn troadau a chorneli
  • Mae brecio ar gornel lle mae yna eira neu rew yn hynod o beryglus
  • Er mwyn brecio ar rew neu eira heb gloi eich olwynion, ewch i gêr isel yn gynt nag arfer, gadewch i’ch cyflymder ddod i lawr a defnyddiwch eich breciau’n ysgafn
  • Gadewch mwy o le rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen. Efallai y byddwch angen hyd at DDEG GWAITH y pellter arferol i frecio.
  • Cadwch eich cerbyd wedi’i awyru’n dda. Fe all gwresogydd y car wedi’i droi i fyny i’w eithaf eich gwneud yn gysglyd yn sydyn iawn.
  • Mewn eira, stopiwch yn aml i lanhau’r ffenestri, uwchben yr olwyn, y goleuadau a’r platiau rhif
  • Mae’n debyg y bydd y gwelededd yn waeth, felly defnyddiwch oleuadau wedi’u gostwng
  • Gadewch i rywun wybod i ble yr ydych yn mynd a pha amser yr ydych yn gobeithio cyrraedd, fel y gallant adael i rywun wybod os byddwch yn cael i drafferthion
  • Cynlluniwch ffyrdd eraill rhag ofn na fedrwch ddefnyddio’r ffordd o’ch dewis
  • Cadwch eich tanc tanwydd bron yn llawn i sicrhau na fyddwch yn mynd yn brin
  • Gwnewch yn siŵr bod batri eich ffôn symudol yn llawn fel y gallwch alw am help neu rybuddio rhywun os byddwch yn hwyr yn cyrraedd. Fe allai fod yn daith gerdded hir i ddarganfod ffôn os nad oes gennych ffôn symudol
  • Os nad oes pecyn argyfwng gennych yn y cerbyd, ewch â dillad cynnes ychwanegol, esgidiau a fflachlamp gyda chi o leiaf. Ystyriwch gadw ychydig o fariau egni bwyd yn rhywle yn eich car
  • Cliriwch eich ffenestri a’ch gwydrau yn gyfan gwbl o eiriau a rhew cyn i chi gychwyn (gwnewch yn siŵr bod y gwresogydd yn chwythu aer cynnes cyn cychwyn - bydd yn cadw eich sgrin wynt yn glir)

Argymhellir eich bod yn cario:

  • Rhaff dynnu
  • Rhaw
  • Welingtons
  • Triongl rhybuddio perygl
  • Offer gwrthrewi
  • Pecyn cymorth cyntaf (mewn cyflwr da)
  • Fflachlamp sy’n gweithio
  • Blanced car
  • Dillad cynnes
  • Bwyd mewn argyfwng (yn cynnwys diod boeth mewn fflasg - di-alcohol, wrth gwrs).
  • Ffôn Symudol (gyda batri llawn)

Mae’n syniad da i gael trin eich car yn llawn cyn dechrau’r gaeaf a rhoi prawf ar yr hylif gwrthrewi. Os na allwch drefnu i gael trin eich car, dylech wnewch eich gwaith siecio eich hun. Yn arbennig, dylech siecio:

  • Bod y goleuadau’n lân ac yn gweithio
  • Bod y batri yn llawn
  • Bod y sgrin wynt a’r llafnau glanhau a’r ffenestri eraill yn lân a bod y botel ddŵr ar gyfer golchi’r sgrin wynt wedi’i llenwi hefo’r hylif pwrpasol
  • Cyflwr y teiars, dyfnder y rwber a’r pwysedd (yr holl deiars, yn cynnwys yr un sbâr)
  • Bod y brêcs yn gweithio’n dda
  • Bod yr hylifau i’r mesur iawn, yn arbennig yr hylif golchi’r sgrin wynt (a bod y cymysgedd iawn yn iawn fel nad yw’n rhewi) yr hylif gwrthrewi a’r olew