Gwasanaethau'r Cyngor:

Cyngor er mwyn osgoi’r ddirwy parcio

Fel gyrrwr y cerbyd eich cyfrifoldeb chi ydy parcio’n iawn. Dyma rai pwyntiau i’ch atgoffa ynglŷn â lle na ddylech barcio.

Peidiwch â pharcio

  • mewn mannau lle mae cyfyngiadau aros a llwytho mewn grym ar y pryd
  • mewn man parcio sydd wedi cael ei neilltuo (ee ar gyfer perchnogion bathodynnau glas) heb ddangos tocyn dilys
  • mewn safle bysus
  • ar linellau igam-ogam gorfodol tu allan i ysgol neu ger croesfan gerddwyr - nid yw casglu na gollwng plant yn esgus derbyniol, mae eich cerbyd yn achosi perygl difrifol i ddiogelwch
  • ar y palmant neu ymylon glaswellt tu ôl i gyfyngiadau aros sydd mewn grym ar y pryd
  • mewn meysydd parcio talu ac arddangos heb dalu am docyn am hyd eich arhosiad
  • am gyfnod hirach nag y bydd unrhyw gyfyngiadau aros yn ei ganiatáu, a pheidiwch â dychwelyd i’r lle o fewn y cyfyngiad a nodir
  • y tu allan i safle parcio sydd wedi ei farcio
  • am gyfnod hirach nag yr ydych wedi dalu amdano mewn safle talu ac arddangos

Os nad ydych yn siŵr, edrychwch beth sydd ar yr arwydd perthnasol i le rydych yn meddwl parcio.

Bydd parcio eich cerbyd yn gywir a diogel yn helpu i gadw Môn yn lle diogel a dymunol i bawb.

Os oes sawl blwyddyn wedi pasio ers i chi basio’ch prawf gyrru, fel sydd yn wir gyda chymaint ohonom, beth am weld copi o Rheolau’r Ffordd Fawr a tharo golwg arno. Mae llawer o’r cyfyngiadau cyflymder, arwyddion a rheolau parcio wedi newid dros y blynyddoedd a byddai’n werth gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth ddiweddaraf gennych.

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752300
Ebost: pem@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 3 Maw 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?