Gwasanaethau'r Cyngor:

Cynllun Bathodyn Glas

Mae’r cynllun bathodyn glas yn gynllun parcio cenedlaethol ar gyfer pobl anabl sydd yn gyrru neu yn teithio mewn cerbyd. Y bwriad ydi helpu pobl anabl i barcio yn agos i ble mae nhw’n mynd

Ar 1 Ebrill 2012 bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r drefn bathodynnau glas. O’r dyddiad hwn ymlaen bydd y bathodyn ar gael am ddim i’r rhai sy’n gymwys i’w dderbyn.

Alla i gael bathodyn glas?

Gallwch wneud cais am fathodyn glas os ydych yn:

  • derbyn y gyfradd uchaf o elfen symudedd Lwfans Byw i’r Anabl neu yn derbyn Tâl Atodol am Symudedd i Bensiynwyr Rhyfel
  • gyrru cerbyd sydd wedi’i ddarparu gan Adran Iechyd y Llywodraeth
  • pobl sy’n derbyn budd-dal dan Gynllun (Iawndal) y Lluoedd arfog a’r Adfyddinoedd
  • wedi eich cofrestru’n ddall
  • dioddef anabledd difrifol yn y ddwy fraich ac yn gyrru cerbyd yn rheolaidd, ond methu â defnyddio’ch dwylo i droi’r llyw, er bod bwlyn arno
  • dioddef anabledd parhaol a sylweddol sy’n golygu na allwch gerdded neu eich bod yn cael anhawster mawr wrth gerdded. 

Mae’r diffiniadau llawn i’w gweld yn y  llyfryn gwybodaeth sydd wedi ei atodi ar y dudalen hon -gweler y tab “dogfennau i’w lawrlwytho”.

Faint mae bathodyn glas yn ei gostio?

Bydd y bathodyn ar gael i unigolion am ddim o 1 Ebrill 2012 ymlaen.

Os bydd y bathodyn glas yn cael ei golli, bydd ffi o £10 er mwyn derbyn bathodyn newydd.

Gall sefydliadau sy’n gofalu am bobl ag anableddau hefyd gyflwyno cais am fathodyn. O’r 1 Ebrill 2012 ymlaen bydd ffi o £10 i sefydliadau sydd am dderbyn bathodyn.

Cais am fathodyn glas newydd

Er mwyn gwneud cais am fathodyn glas, cysylltwch â ni drwy ffonio 01248 752704

Adnewyddu eich bathodyn glas

Dim ond am 3 blynedd mae’r bathodyn glas yn ddilys, a bydd angen i chi gyflwyno cais am fathodyn newydd bob 3 blynedd. Cysylltwch â ni ar 01248 752704.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch yn y llyfryn gwybodaeth sydd wedi ei atodi ar y dudalen hon - gweler y tab “dogfennau i’w lawrlwytho”, neu cysylltwch â ni drwy ffonio 01248 752704.

Sut i wneud cais

Gellir lawrlwytho copi o’r ffurflen gais - gweler y tab “dogfennau i’w lawrlwytho” ar ben y dudalen hon, neu cysylltwch gyda ni am pecyn ffurflen gais. Gweler y tab “cysylltiadau” uchod.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n hanfodol i ni dderbyn dau lun pa trwydded teithio.

Ble alla i barcio gyda bathodyn glas?

Ar Ynys Môn, mae deiliad Bathodynnau Glas a’r hawl i barcio am ddim mewn unrhyw fae oddi fewn i’r meysydd parcio talu ac arddangos os yw bathodyn dilys yn cael ei arddangos.

Mae eithriadau’n bodoli - mae rhagor o wybodaeth yn y llyfryn gwybodaeth sydd wedi ei atodi ar y dudalen hon -gweler y tab “dogfennau i’w lawrlwytho”.

Os yw eich cais yn aflwyddiannus

Mae’r penderfyniad i gyflwyno neu i beidio â chyflwyno bathodyn yn cael ei wneud gan yr awdurdod lleol yn unig.

Nid oes gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad oni bai fod hynny at yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y llythyr gwrthod.

Pan fo ymgeisydd yn teimlo ei fod/bod eisiau cwestiynu’r penderfyniad, mae gennym drefn i ail-asesu.

Dylai’r adain fathodynnau dderbyn cais am ail-asesiad o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y llythyr gwrthod, a rhaid i’r cais fod mewn ysgrifen, yn nodi’r wybodaeth feddygol ychwanegol sylweddol.

Dylid anfon llythyrau at:

Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa’r Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Ffôn: (01248) 752752

Ebost: asdss@ynysmon.gov.uk

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752300
Ebost: pem@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 3 Maw 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?