Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rhybuddion talu cosb/dirwy parcio


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol cyfagos i reoli a phrosesu dirwyon parcio.

Cyfrifoldeb Cyngor Sir Ynys Môn ydi rheoli parcio ar y stryd a pharcio o fewn meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor. Os na fyddwch yn cadw at y rheolau parcio, mae’n debygol y byddwch yn derbyn dirwy (Rhybudd Talu Cosb) ar ffenestr eich cerbyd neu wedi ei anfon atoch yn y post.

Yr Heddlu sy’n gyfrifol am gyhoeddi dirwyon i yrwyr sy’n achosi rhwystr neu mewn achosion o barcio peryglus.

Mae swm y ddirwy yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydi’r drosedd:

  • £70 am droseddau difrifol (gostwng i £35 os byddwch yn talu o fewn 14 diwrnod)
  • £50 am droseddau llai difrifol (gostwng i £25 os byddwch yn talu o fewn 14 diwrnod)

Gallwch weld diffiniad o’r troseddau ar wefan Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru (cyswllt allanol). 

Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru sydd yn prosesu dirwyon parcio (Rhybudd Talu Cosb) ar ran Cyngor Sir Ynys Môn. Gallwch dalu dirwy parcio ar-lein drwy fynd i wefan Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru.

Talu dirwy parcio ar-lein

Gallwch hefyd dalu gyda cherdyn credyd neu debyd drwy ffonio llinell dalu Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru: 0845 6056556. Neu, gallwch dalu wyneb yn wyneb yn unrhyw Swyddfa Bost. 

Os ydych yn credu eich bod wedi derbyn dirwy (Rhybudd Talu Cosb) ar gam, gallwch apelio i Bartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru o fewn 14 diwrnod o’i dderbyn.

Bydd rhaid i chi gyflwyno apêl ysgrifenedig ar ffurf llythyr, e-bost neu ffacs i un o’r manylion cyswllt isod:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol yn eich llythyr.

  • Rhif y Rhybudd Talu Cosb (bydd hwn yn ffigwr 10 digid fel YM12345678)
  • Eich enw a’ch manylion cyswllt.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag apelio yn erbyn Rhybudd Talu Cosb, ewch i wefan Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru

Er mwyn osgoi derbyn dirwy, peidiwch â pharcio:

  • mewn mannau lle mae cyfyngiadau aros a llwytho mewn grym ar y pryd
  • mewn man parcio sydd wedi cael ei neilltuo (er enghraifft ar gyfer perchnogion bathodynnau glas) heb ddangos tocyn dilys
  • mewn safle bysus neu ar lôn fysus yn ystod cyfnod lle mae gwaharddiad
  • ar linellau igam-ogam gorfodol tu allan i ysgol neu ger croesfan gerddwyr
  • mewn meysydd parcio talu ac arddangos heb dalu am docyn am hyd eich arhosiad
  • am gyfnod hirach nag y bydd unrhyw gyfyngiadau aros yn ei ganiatáu, a pheidiwch â dychwelyd i’r lle o fewn y cyfyngiad a nodir
  • cymrwch sylw o’r rheoliadau a darllenwch y platiau gwybodaeth a’r arwyddion.

Gallwch weld y rheolau parcio llawn ar wefan Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru

Am ragor o wybodaeth am barcio ar Ynys Môn, cysylltwch ar Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar 01248 750057

I roi gwybod am unrhyw ddiffygion yn y maes parcio neu anhawster wrth ddefnyddio'r peiriant talu ac arddangos, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda  01248 752370 neu anfonwch ebost at priffyrdd@ynysmon.llyw.cymru