Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cais am docyn parcio tymor


Sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn darllen ac yn deall yr amodau cyn cwblhau’r cais.

I dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd, ffoniwch 01248 750 057, dewiswch opsiwn iaith ac yna dewiswch opsiwn 3 ar gyfer Budd-daliadau, Refeniw a Threth y Cyngor yna opsiwn 2 ar gyfer Incwm a Thaliadau.

Fel arall, argraffwch y ffurflen gais a’r amodau sydd ynghlwm ynghylch (gweler isod) sut i wneud cais am docyn tymor ar gyfer parcio ac anfonwch nhw wedyn gyda’r tâl i’r cyfeiriad a ddarparwyd os gwelwch yn dda.

Nid yw’r awdurdod bellach yn derbyn ceisiadau na thaliadau a wneir yn bersonol.

Adnewyddu

Cyfrifoldeb perchennog y tocyn parcio tymor yw gwneud cais i’w adnewyddu.

Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod adnewyddu tocyn parcio tymor os yw’r deilydd yn gyson wedi torri’r rheolau a’r amodau perthnasol neu yn fwriadol wedi atal neu rwystro’r Cyngor rhag cyflawni ei ddyletswyddau.

Meysydd parcio dilys

Arhosiad hir

  • Amlwch
    • Ffordd Porth Llechog
    • Llyfrgell
    • Noddfa
    • Stryd Salem
  • Benllech
    • Wendon Isaf
    • Wendon Uchaf
    • Y Sgwar
  • Caergybi
    • Church House
    • Ffordd Victoria
    • Hill Street (Uchaf)
    • Sgwâr Trearddur
    • Stanley Crescent
  • Gaerwen, Cefn Du Mawr  
  • Llanfairpwll Safle Parcio a Theithio/Rhannu Sant Tysilio
  • Llangefni
    • Iard y Stesion
    • Nant y Pandy,
    • Neuadd y Dref (cefn)
    • Penyrorsedd (llyfrgell)
    • Stryd y Felin
  • Porthaethwy
    • Ffordd y Ffair
    • Y Bulkeley
    • Y Waun
  • Porth Swtan Maes Parcio’r Traeth
  • Rhoscolyn Maes Parcio’r Traeth
  • Rhosneigr Llyfrgell
  • Traeth Bychan Maes Parcio’r Traeth
  • Trearddur
    • Fron Tywyn
    • Lôn Isallt
    • Lôn St Ffraid

Arhosiad byr (hyd at 2 awr yn ystod y cyfnodau codi tâl)

  • Caergybi
    • Hill Street (Isaf)
    • Sgwâr Swift
  • Porthaethwy Llys Menai
  • Llangefni Neuadd y Dref (rhan flaen y maes parcio)
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.