Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Amserlenni bws


Mae Arriva wedi gwneud newidiadau i'w gwasanaethau bws ar draws Gogledd Cymru.

Newidiadau ar Ynys Môn

 Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd gan Arriva yn effeithio gwasanaethau yn:  

  • Caergeiliog
  • Bodedern
  • Trefor
  • Gwalchmai Uchaf
  • Llynfaes
  • Bodffordd
  • Llanddaniel

Bydd y newidiadau yn dod i rym ddydd Sul 24 Medi.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y newidiadau i wasanaethau bysiau (yn Saesneg) ar wefan Arriva.

Pam mae hyn wedi digwydd

Mae Arriva wedi nodi eu bod wedi gwneud y newidiadau anodd hyn gan nad yw lefelau teithwyr wedi dychwelyd i’r lefelau yr oeddent cyn Covid-19 a bod costau wedi cynyddu’n sylweddol.

Gan fod y lleoliadau yn cael eu gwasanaethu ar sail fasnachol gan y gweithredwr, cyfyngedig iawn yw dylanwad y cyngor.

Neges gan y cyngor 

Gwerthfawrogwn y bydd y newyddion hwn yn effeithio ar drigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Er mwyn sicrhau bod y pentrefi uchod yn parhau i dderbyn gwasanaeth bws, mae’r cyngor yn edrych ar opsiynau i gyfeirio gwasanaethau eraill drwy’r pentrefi hyn. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Mae’n annhebygol y byddwn yn gallu cynnig yr un lefel o amlder bysiau a ddarparwyd yn flaenorol gan Arriva.

Amserlenni

Cyhoeddir yr amserlenni bysiau diweddaraf gan Traveline Cymru.

Ewch i wefan Traveline Cymru

Ap Traveline Cymru

Gallwch hefyd lawrlwytho app Traveline Cymru oddi wrth y iPhone App Store (Apple) neu Google Play ar gyfer Android.

Ffoniwch Traveline Cymru

Gallwch ffonio nhw hefyd ar 0800 464 00 00.

Ymwadiad y cyngor 

Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfrifol am unrhyw golled, ddifrod neu anhwylustod a achosir gan unrhyw anghywirdeb.