Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cerdyn teithio


Cerdyn teithio ar gyfer pobl rhwng 16 a 21 oed

Teithiau rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc 16 i 21 oed ar draws Cymru.

Cerdyn teithio ar gyfer pobl hŷn ac anabl (tocyn bws)

Gall pobl dros 60 oed, pensiynwyr a rhai pobl anabl gymwys deithio am ddim ar yr holl wasanaethau bysiau lleol ledled Cymru.

Gwneud cais am eich cerdyn teithio (tocyn bws)

Cardiau bws i gydymaith

Os oes angen cymorth arnoch chi wrth deithio, efallai fod modd i chi gael cerdyn cydymaith sy'n caniatau i un person deithio gyda chi yn rhad ac am ddim am y daith gyfan. Mae ceisiadau am gardiau cydymaith newydd yn cael eu gwneud i'r Awdurdod yma, ddim Trafnidiaeth Cymru.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â'r cyfeiriad canlynol: Adain Drafnidiaeth, Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW neu ffoniwch 01248 752 456.

Tocynnau crwydro bws a thrên

Mae’r tocynnau hyn yn amodol ar newidiadau ar fyr rybudd.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.