Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Iechyd a diogelwch i fusnesau


Cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau fod rhai busnesau penodol yn darparu lle gweithio diogel i weithwyr, i’r cyhoedd ac i gontractwyr.

Mae’r gwaith gorfodaeth yng nghyswllt iechyd a diogelwch yn y gwaith yn cael ei rannu rhwng y gweithgor iechyd a diogelwch (Health and Safety Executive - HSE), sef asiantaeth yn perthyn i’r Llywodraeth Ganol ac awdurdodau lleol ar y llaw arall.

Yn rheolaidd rydym yn gwneud gwaith siecio ar fusnesau lleol ac adeiladau busnes i sicrhau bod amgylchiadau gweithio diogel ac iach ar gael i’r holl weithwyr a phawb sy’n ymweld â’r lle.

Y Comisiwn Iechyd a Diogelwch sy’n gyfrifol am faterion iechyd a diogelwch yn y safleoedd niwclear ac yn yr holl weithfeydd mwyngloddio, hefyd mewn ffatrïoedd, ffermydd, ysbytai ac ysgolion, ar lwyfannau nwy ac olew yn y môr, diogelwch y grid nwy a chyfrifoldeb y Comisiwn hefyd yw gofalu yn yr un modd pan fo nwyddau a sylweddau peryglus yn cael eu symud o le i le, hefyd am ddiogelwch y rheilffyrdd, ac am sawl agwedd arall o ddiogelwch i weithwyr ac i’r cyhoedd.

  • iopau
  • adeiladau cyfanwerthu
  • adeiladau storio nwyddau
  • depos storio tanwydd
  • swyddfeydd
  • sefydliadau arlwyo, bwytai a bariau
  • gwestyau, safleoedd gwersylla a mannau sy’n darparu llety am dymor byr
  • cartrefi gofal preswyl a chartrefi nyrsio preifat
  • adeiladau hamdden a’r math diwylliannol
  • tyrrau oeri
  • asbestos

Nid cyfrifoldeb y Cyngor yw gofalu am ddiogelwch adeiladau’r Cyngor a’i weithwyr, am ysbytai, am y diwydiant cynhyrchu (gan gynnwys cynhyrchu bwyd) nac am y diwydiant adeiladau - mae’r materion hyn i gyd yng ngofal y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

  • Archwilio - adeiladau busnes megis swyddfeydd, siopau ac adeiladau storio i sicrhau bod yr amgylchiadau’n foddhaol ac yn ddiogel.
  • Ymchwilio i ddamweiniau - yn y gwaith pan fo hynny’n ymwneud â’r staff neu’r cyhoedd yn gyffredinol.
  • Cwynion - yng nghyswllt iechyd a diogelwch
  • Gwybodaeth am iechyd a diogelwch - i fusnesau ac i’r cyhoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth yn gyffredinol am iechyd a diogelwch.
  • Gwaith y Llys

Gellir i’r adeiladau hynny y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt gael eu cofrestru gyda’n gwasanaeth Iechyd a Diogelwch. Ceir gwybodaeth helaeth iawn ar wefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch i hen fusnesau ac i rai newydd ac mi fedrwch lenwi ffurflen gais i bwrpas cofrestru gwaith iechyd a diogelwch ar y safle.

Ar ôl llenwi’r ffurflen, bydd raid i chwi ei phrintio a’i gyrru atom ni. Mae yma fanylion am y cyswllt priodol, dilynwch y cyswllt ar waelod y dudalen.

Fel arall mae modd i ni yrru ffurflen atoch. Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch.

Yr Awdurdod Tân sy’n gyfrifol am ddiogelwch tân yn y gwaith - sef Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Rydym yn gweithio ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Tân a byddwn yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw faterion neu unrhyw ragolygon tân a nodwyd wrth archwilio’r safle.

Rydym yn cynnal ymchwil i ddamweiniau sy’n digwydd yn y gweithle, gan gynnwys digwyddiadau y bu aelodau o’r cyhoedd yn rhan ohonynt.

Y Cyngor sy’n ymchwilio i gwynion ynghylch Iechyd a Diogelwch yn yr adeiladau y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt.

Petai ymweliad neu waith ymchwil gan swyddog yn sefydlu bod unrhyw adeilad yn anniogel yna bydd modd cyflwyno i’r busnes sy’n defnyddio’r adeilad :

  • Rybudd Gwahardd : i roi stop ar waith peryglus.
  • Llythyr neu Rybudd Gwella : yn nodi enghreifftiau o dorri’r rheolau neu o arferion drwg a welwyd adeg y gwaith ymchwil.
  • Cyngor ar lafar : am dorri rheolau ar raddfa fechan.

Ar wefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch mae gwybodaeth helaeth i fusnesau newydd a rhai hen. Mae nifer dda o daflenni ar gael yn y Gymraeg hefyd.

Os bydd raid, neu os ydyw gwaith ymchwil i ddamwain yn canfod diffygion difrifol ar y busnes, yna gall y Tîm Iechyd a Diogelwch gymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmni, yn erbyn unigolion neu’r ddau.

Os ceir busnesau yn euog o dorri rheolau Iechyd a Diogelwch bydd y manylion ar gael ar wefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch - Cofrestr o Ddedfrydau

Government Buildings
Phase 1
Tŷ Glas
Llanishen
Caerdydd
CF14 5SH
Ffôn: 029 2026 3000
Ffacs: 029 2026 3120