Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Archwiliadau Dioglwch Bwyd


Rydym yn cynnal archwiliadau o safleoedd bwyd i nodi unrhyw beryglon posibl i ddiogelwch bwyd ac i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth hylendid bwyd a safonau bwyd. Pwrpas yr archwiliadau hyn yw:
  • nodi ac atal risgiau i iechyd y cyhoedd,
  • ymchwilio i unrhyw achosion posibl o dorri deddfwriaeth hylendid bwyd a safonau bwyd a chymryd camau i sicrhau cydymffurfiaeth,
  • sicrhau nad yw bwyd yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n camarwain y defnyddiwr,
  • cynnig cyngor ar arferion da.
Rydym yn cynnal archwiliadau diogelwch bwyd rheolaidd a gallwn hefyd ymweld o ganlyniad i gŵyn. Mae amlder ein hymweliadau rheolaidd yn amrywio yn dibynnu ar y math o fusnes a’ch record diogelwch bwyd blaenorol. Gall amlder yr arolygu amrywio rhwng bob 6 mis a phob 3 blynedd.
Mae gan Swyddogion Diogelwch Bwyd a Safonau Masnach yr hawl i fynd i mewn ac arolygu safleoedd bwyd ar bob adeg resymol heb wneud apwyntiad, ac maent fel arfer yn dod heb rybudd ymlaen llaw.
Mae swyddogion yn cael eu hawdurdodi i archwilio'r safle, archwilio bwyd, archwilio cofnodion (fel cofnodion cyfrifiadurol), atafaelu neu gadw bwyd, cymryd samplau neu ffotograffau i'w defnyddio fel tystiolaeth. 

Ar ôl yr Arolygiad

Ar ôl cwblhau'r arolygiad, bydd y swyddog arolygu yn trafod y canfyddiadau â'r person â gofal am y safle. Byddant yn cynhyrchu adroddiad a'i anfon at weithredwr y busnes (fel arfer o fewn 14 diwrnod).
Bydd yr adroddiad yn amlinellu'r holl feysydd lle mae'r busnes yn methu â chydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd ac yn amlinellu pa gamau y mae angen i weithredwr y busnes eu cymryd er mwyn cydymffurfio'n llawn â'r gyfraith. Bydd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion unrhyw argymhellion sy'n rhoi cyngor ar arfer da. 
Gyda’r adroddiad fydd sgôr hylendid bwyd y busnes (lle bo'n briodol).  

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pan na fydd arferion neu amodau'n foddhaol, byddwn yn ceisio gweithio gyda'r busnes i'w helpu i wella safonau a chydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd.  Fodd bynnag, os nad yw amodau yn cael eu gwella, neu mae perygl i iechyd y cyhoedd, efallai y bydd angen i ni gyflwyno hysbysiad statudol i weithredwr y busnes.  Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad yn drosedd sydd, ar gollfarn, yn gallu arwain at ddirwy neu garchar.

Ailymweliadau

Os bydd arolygiad yn dangos bod angen ar y busnes i gyflawni gwaith i wella safonau, efallai y bydd angen un neu sawl ymweliad dilynol.  Ni fydd eich sgôr hylendid bwyd yn newid ar ôl yr ymweliadau hyn oni bai eich bod wedi gwneud cais am ailsgorio.