Bydd y gronfa'n darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod y pandemig coronafirws. Bydd yn helpu i fynd i’r afael â bylchau na chyflawnwyd gan gynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Bydd yr arian yn cael ei dargedu at ficrofusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd hanfodol i Gymru.
Mae y broses ymgeisio ar gyfer busnesau sy'n gymwys i gael cymorth ariannol o'r Gronfa wedi ail-agor 29 Mehefin 2020 trwy wefan Busnes Cymru, ond wedi cau ers hynny.
Dyliech edrych ar eu gwefan i weld y statws diweddaraf.