Mae’r wybodaeth yma hefyd ar gael ar gefn eich bil.
Debyd Uniongyrchol - hwn yw’r math o dalu a ffafrir gan y Cyngor, tra mae’n helpu i ostwng costau gweinyddu. I dalu eich bil drwy Ddebyd Uniongyrchol, os gwelwch yn dda a wnewch gwblhau’r ffurflen amgaeëdig gyda’ch bil a’i anfon yn ôl i’r Cyngor, gan ddyfynnu eich rhif cyfrif.
Taliadau ar lein - gallwch dalu eich Treth Busnes ar lein drwy ymweld â www.ynysmon.gov.uk gan ddefnyddio ein serfwr wedi’i warchod. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma i dalu nifer o filiau eraill y Cyngor yn ychwanegol i’r Dreth Busnes, drwy ddefnyddio Visa (cardyn debyd/credyd) neu Mastercard.
Gwasanaeth taliadau ffôn – gallwch ddefnyddio ein system taliadau awtomatig, gan wneud taliadau gyda cardiau debyd neu gredyd. Mae’r gwasanaeth yma ar gael 24 awr y dydd ar 0300 1230800.
Siec drwy’r post – gallwch wneud sieciau yn daladwy i ‘Cyngor Sir Ynys Môn’ a’i bostio i Adain Refeniw, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW. Wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod rhif eich cyfrif Trethi Busnes wedi’i ddyfynnu ar gefn y siec.
Banc – gallwch dalu drwy BACS i gyfrif banc cyffredinol y Cyngor rhif 79118615 yn Natwest, Cangen Llangefni rhif côd 53-81-02. Wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, eich bod yn dyfynnu rhif eich cyfrif Dreth Busnes wrth wneud taliad. Fe all y banc godi tâl arnoch am y gwasanaeth yma.