Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio i gefnogi busnesau drwy gyfnod y coronafeirws COVID-19.
Bydd ail gam y Gronfa Adferiad Diwylliannol yn agor ar gyfer ceisiadau o'r wythnos sy'n dechrau ar 6 Ebrill ac yn cau ar 20 Ebrill. Disgwylir cam newydd y Gronfa ar gyfer Gweithwyr Llawrydd ym mis Mai.
Diben yr ail gam o’r gronfa yw diogelu busnesau a sefydliadau cynaliadwy a chymaint o swyddi â phosibl yn y sector diwylliant er mwyn sicrhau bod y sector yn goroesi argyfwng Covid-19 ac yn parhau i fod yn fywiog, hyfyw a chynaliadwy yn 2021 a thu hwnt.
Bydd y cyllid ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021.
Defnyddiwch y Gwiriwr Cymhwysedd ar y gwefan Busnes Cymru i adolygu'r meini prawf.
https://fundchecker.businesswales.gov.wales/culturep2/cy
Os oes gennych unrhyw gwestiynu ynglŷn â’r gronfa hon, cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000 6 03000
Bydd y cynllun sy’n cael ei gyflwyno ar 15 Mawrth 2021 yn helpu busnesau y mae cyfyngiadau coronafeirws yn effeithio arnynt i gwrdd â chostau gweithredu yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21, hyd at 31 Mawrth 2021.
Mae’r Cronfeydd yma yn ymateb i’r estyniad i gyfyngiadau Lefel Rybudd 4 gyhoeddwyd ar y 29ain o Ionawr.
Mae’r cymorth yn ychwanegol i’r arian darparwyd ar gyfer y cyfnod Rhagfyr 2020/Ionawr 2021.
Mwy...
Mae y Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ail becyn o Cymorth Penodol i’r sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden a chwmnïau yn y gadwyn gyflenwi.
I fod yn cymwys bydd angen I busnesau hefo deg neu fwy o staff a wedi gweld gostyngiad mewn trosiant o fwy na 60% o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud (lefel rhybudd 4) parhaus rhwng 25 Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2021.
Bydd ceisiadau yn agor trwy gwefan Busnes Cymru am 10am ar Dydd Mawrth 9 Mawrth a bydd yn agor am tair diwrnod tan 8pm ar Dydd Gwener 12 Mawrth.
Mae yna gwiriwr cymhwysedd cronfa a meini prawf cymhwysedd llawn drwy gwefan Busnes Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gymorth ariannol i fusnesau yn gysylltiedig a’r cyfyniadau cyfnod Nadolig.
Mae hon yn gronfa sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru yn sgil COVID-19.
Fe gaeodd y grant i geisiadau yn Mehefin 2020 a ni ellir derbyn ceisiadau newydd.
Rhoddwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu dau grant yn gysylltiedig ag eiddo treth busnes.
Gweinyddwyd grantiau o £10,000 neu £25,000 gan awdurdodau lleol ar draws Cymru, a derbyniodd tua 2,000 o fusnesau Ynys Mon gyfanswm o dros £22M.
Mae’r Cynllun Cadw Swyddi (Covid-19) nawr ar agor ar gyfer ceisiadau. Hawliwch am 80% o gyflogau eich gweithwyr ynghyd ag unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn cyflogwr, os ydych chi wedi eu rhoi ar ‘furlough’ oherwydd coronafirws (COVID-19).
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Banc Datblygu Cymru, Cronfa Cydnerthedd Economaidd, Grantiau Busnes Llywodraeth Cymru, Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws, Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes, Diogelu busnesau sy’n methu taliadau rhent, Cymorth Tâl Salwch Statudol.
Mwy...
Bydd busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu eiddo efo gwerth trethiannol o £500,000 neu lai ar 1 Ebrill 2020, yn derbyn rhyddhad trethi busnes o 100%. Bydd hyn ar gyfer y flwyddyn drethol 2020/21 a 2021/22.
Deallwn y bydd angen i rai darparwyr llety ddarparu llety ar gyfer gweithwyr (allweddol) a’r sawl sy'n disgyn o fewn categorïau eithrio Llywodraeth Cymru.
Gweler mwy...
Gallwch nawr ddefnyddio cyfeiriadur chwilio cymorth busnes Llywodraeth y DU i weld pa gymorth sydd ar gael i chi a'ch busnes yn ystod y cyfnod pandemig Coronafeirws (COVID-19).
Efallai byddech yn gymwys ar gyfer:
- benthyciadau
- rhyddhad treth
- grantiau
Am fwy o wybodaeth :-
https://bit.ly/3cv0yHR
Diben y grant yw cefnogi busnesau gofal plant sydd wedi'u cofrestru gydag AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) drwy roi cymorth ariannol brys i'w helpu dygymod â chanlyniadau economaidd Covid-19.
Mwy...