Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gofod Masnachol, Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HH


Statws: O dan gynnig

Amcan Bris Rhent:

£5,500 + TAW y Flwyddyn 

Nodweddion

  • Gofod masnachol o fewn adeilad Neuadd y Farchnad ar ei newydd wedd
  • Gall fod yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau (yn amodol ar ganiatâd statudol)
  • Rhan o raglen adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd
  • Lleoliad yng Nghanol y Dref
  • Neuadd y Farchnad i ddarparu cartref newydd ar gyfer Llyfrgell Caergybi, casgliadau hanes lleol yr Ynys a mannau newydd ar gyfer dysgu, hyfforddi a gweithgaredd cymunedol 

Disgrifiad

Cyfle unigryw i brydlesu gofod masnachol o fewn Neuadd y Farchnad, Caergybi. Bydd y gofod wedi’i lleoli ar y llawr gwaelod, yn agos at y brif fynedfa a fydd yn arwain yn uniongyrchol i'r llyfrgell a busnesau eraill sy'n meddiannu'r adeilad.

Mae cyflwr Neuadd y Farchnad wedi dirywio dros gyfnod o ddeng mlynedd a mwy. Mae’r Neuadd newydd cael ei hatgyweirio a’i huwchraddio ar gyfer ei defnyddio i ddibenion newydd gan olygu y bydd defnydd cynaliadwy yn cael ei wneud o’r adeilad yn y pen draw. Mae’r prosiect yn sicrhau dyfodol cynaliadwy, sy’n parchu ac yn dathlu treftadaeth y Neuadd. Mae’r adeilad yn gartref newydd i Lyfrgell Caergybi a chasgliadau hanes lleol yr Ynys, arddangosfeydd sy’n dehongli hanes Caergybi gyda chyfleoedd i sicrhau lleoliadau newydd ar gyfer dysgu, hyfforddiant a gweithgareddau cymunedol. 

Telerau’r Brydles

Trafodadwy. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am baratoi’r brydles, a fydd yn costio oddeutu £621.55 + TAW. Mae’r Cyngor gyda pholisi o sicrhau blaendaliadau ar gyfer rhent masnachol sy’n cyfateb i 6 mis o rent. Bydd hwn yn daliad hollol ar wahân i’r rhandaliad rhent cyntaf.  Bydd cost gwasanaeth cyfran deg bob 6 mis hefyd i’w dalu. 

Gwneud Cais

Mae'r eiddo ar gael ar drwydded, yn amodol ar gais llwyddiannus, a bydd angen darparu geirdaon a chynllun busnes. Cysylltwch â’n Hadain Eiddo am ragor o wybodaeth. 

Gweld yr Eiddo a Datganiadau o Ddiddordeb                                                                                         

Ymweliadau drwy apwyntiad yn unig. Dylai partïon sydd am fynegi diddordeb yn yr eiddo hwn wneud hynny drwy gysylltu ag Adain Eiddo’r Cyngor dros y ffôn ar 01248 752241 / 752245 neu drwy anfon ebost i YmholiadauEiddo@ynysmon.gov.uk 

Deddf Cam-gynrychioli

Canllawiau cyffredinol yn unig yw'r manylion hyn ac ni ddylid dibynnu arnynt fel sail i sefydlu contract cyfreithiol neu i ymrwymo gwariant. Nid oes profion wedi cael eu cynnal ar unrhyw gyfarpar, offer, ffitiadau neu wasanaethau ac nid ydynt wedi cael eu dilysu fel rhai sy'n gweithio, yn addas i'w pwrpas neu ym mherchenogaeth y Cyngor. Caiff yr holl fesuriadau eu darparu fel canllawiau cyffredinol yn unig, o'r herwydd, cynghorir partïon sydd â diddordeb i wirio'r mesuriadau eto drostynt eu hunain cyn ymrwymo i unrhyw wariant. Dylai partïon sydd â diddordeb dybio bod yr holl wybodaeth yn anghywir ac ymgynghori gyda'u syrfëwr, cyfreithiwr neu swyddogion proffesiynol eu hunain cyn ymrwymo i unrhyw wariant neu ymrwymiadau cyfreithiol. Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.