Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gwneud ymrwymiad i ymwrthod ag unrhyw gamwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb.
Diben Deddf Cydraddoldeb 2010 yw gofalu bod chwarae teg i bawb trwy roi terfyn ar gamwahaniaethu, hyrwyddo cyfleoedd a deilliannau cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng gwahanol unigolion a chymunedau.
Mae’r Ddeddf yn cymryd lle’r deddfau camwahaniaethu blaenorol gydag un Ddeddf. Mae’n symleiddio ac egluro rôl awdurdodau lleol fel arweinyddion o ran gwella cydraddoldeb ymhlith eu cymunedau a’u dinasyddion.
Pwy sy’n cael eu diogelu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
Mewn gwirionedd, pawb. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno rhestr newydd o nodweddion sydd i’w diogelu yn lle’r amryw agweddau cydraddoldeb traddodiadol. Mae’r grwpiau hyn yn cael eu diogelu trwy gyfrwng dyletswydd gyffredinol a dyletswyddau penodol y Ddeddf. Mae’r ddyletswydd gyffredinol newydd yn ymwneud â’r nodweddion isod:
- oedran
- newid rhyw
- rhyw
- hil - yn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw a chenedligrwydd
- anabledd
- beichiogrwydd a mamolaeth
- cyfeiriadedd rhywiol
- crefydd neu gred - gan gynnwys diffyg cred
Mae’n ymwneud â phriodasau a phartneriaethau sifil hefyd, ond dim ond ynglŷn â rhoi ystyriaeth briodol i’r angen i gael gwared ar gamwahaniaethu.
Rydym wedi ymrwymo i brif ffrydio cydraddoldeb o fewn gwaith yr awdurdod ar bob lefel drwy integreiddio ystyriaethau cydraddoldeb o fewn ein strategaethau a’n cynlluniau allweddol. Adlewyrchir yr ymrwymiad yma yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.