Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith


Mae’r flaen raglen waith hon yn rhestru’r holl benderfyniadau y mae’r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu eu gwneud a pha fusnes y bydd y pwyllgorau sgriwtini yn ei ystyried ynghyd â phryd y bydd y materion hynny’n cael eu trafod. Mae hefyd yn rhestru unrhyw argymhellion y mae’r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu eu gwneud mewn perthynas â phenderfyniadau y mae’n rhaid eu gwneud gan y Cyngor llawn.

Mae modd i benderfyniadau gweithredol gael ei gwneud gan y Pwyllgor Gwaith llawn yn gweithredu fel corff cyfunol neu gan aelodau unigol o’r Pwyllgor Gwaith yn gweithredu trwy hawliau dirprwyiedig.

Mae’r flaen raglen waith yn cael ei hadolygu’n rheolaidd ac fe gyhoeddir diweddariad yn fisol. Nid yw’r ffaith nad yw penderfyniad wedi’i gynnwys yn y flaen raglen waith yn atal materion brys neu rai na ragwelwyd rhag cael eu hystyried.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.