Mae gan Aelodau, gan gynnwys Aelodau cyfetholedig, hawl i ad-daliad o’u costau gofal, hyd at yr uchafswm o £403 y mis, ar gyfer gweithgareddau y mae’r Cyngor wedi’u dynodi’n fusnes swyddogol neu’n ddyletswydd gymeradwy a allai gynnwys amser priodol a rhesymol ar gyfer paratoi a theithio.
Mae’r ad-daliad yma ar gael i aelodau sydd â phrif gyfrifoldeb am ofalu am blentyn neu oedolyn a/neu sydd ag anghenion cymorth personol lle nad yw'r rhain yn dod o dan ddarpariaeth statudol neu ddarpariaeth arall. Gall cymorth personol hefyd gynnwys cyflwr byrdymor neu gyflwr diweddar nad yw'n berthnasol i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mynediad i waith, Taliadau Personol, yswiriant neu ddarpariaeth arall.
Am fwy o fanylion, cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Huw Jones, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd: JJones@ynysmon.gov.uk