Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyswllt Môn


Wyneb yn wyneb

Mae’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau bellach ar gael ar-lein, neu anfonwch neges e-bost at cyswlltmon@ynysmon.gov.uk 

Os ydych am ddod i adeilad y cyngor yn bersonol, ein horiau agor yw 9am i 5pm, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

Blwch postio

Does dim angen i chi wneud apwyntiad os ydych yn dymuno gadael llythyr. Mae blwch postio diogel wedi’i leoli ger drysau’r brif fynedfa er mwyn gallu postio pethau’n ddiogel. Hwn ar gael 24awr y dydd.

Colli golwg, colli clyw ac ieithoedd eraill

Mae ardal derbynfa Cyswllt Môn yn cynnwys Dolennau Sain Clywed er mwyn cynorthwyo’r rhai hynny sydd â theclyn cymorth clywed. Os oes angen dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain arnoch gallwn drefnu hyn drwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig.

Mae fersiynau print bras, Braille sain ac iaith gymunedol o wybodaeth a gyhoeddir ar wefan Cyngor Ynys Môn ar gael.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.