Y thema allweddol sy’n rhedeg trwy’r cynllun yw ein huchelgais i weithio â phobl Ynys Môn, ein cymunedau a’n partneriaid er mwyn sicrhau gwasanaethau o safon uchel a fydd yn gwella ansawdd bywyd i bawb ar yr Ynys.
Mae ymgynghoriadau diweddar â’n cymunedau, aelodau etholedig a staff wedi amlygu’r blaenoriaethau a ganlyn:
- creu’r amodau fydd yn galluogi pawb i gyflawni eu potensial tymor hir
- cefnogi oedolion a theuluoedd bregus a’u cadw’n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosibl
- gweithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau i’w galluogi i ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau tra’n gwarchod ein hamgylchedd naturiol
Yn y cyfnod hwn o gynildeb ariannol fe fydd y cynllun hwn yn dylanwadu ar y ffordd byddwn yn llunio ein cyllideb.
Nodau ac Amcanion Strategol y Cyngor
Ein nod: byddwn yn gweithio tuag at Ynys Mônsy’n iach a llewyrchus lle gall teuluoedd ffynnu.
Ein hamcanion ar gyfer 2017-2022 yw:
- sicrhau bod pobl Ynys Môn yn gallu ffynnu a chyflawni eu potensial tymor hir.
- cefnogi oedolion a theuluoedd bregus a’u cadw’n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosibl
- gweithio mewn partneriaeth â’n cymunedau i’w galluogi i ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau tra’n gwarchod ein hamgylchedd naturiol