Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cofrestr etholwyr


Mae’r gofrestr etholwyr yn rhestru

  • trigolion yn Ynys Môn a fedr bleidleisio mewn gwahanol etholiadau
  • trigolion o dramor yr oedd eu cofrestriad diwethaf i gofrestru mewn cyfeiriad yn Ynys Môn
  • gweithwyr y Lluoedd Arfog sydd wedi cofrestru dan ddatganiad gwasanaeth
  • pobl ddigartref a chanddynt gysylltiad lleol

Caiff y gofrestr etholwyr ei diwygio bob hydref a’i chyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn ar ôl i ni gwblhau ein hymchwil blynyddol i’r holl aelwydydd yn Ynys Môn.  Mae’n cael ei diweddaru hefyd ar ddiwrnod gwaith cyntaf bob mis dan gynllun cofrestru treigl.

Os nad ydych ar y gofrestr etholwyr, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.

Mae dwy gofrestr

Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr.

Y gofrestr etholiadol  

Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus.  Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai dim ond pobl sy’n gymwys i bleidleisio sy’n cael gwneud.

Fe’i defnyddir at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith hefyd, megis

  • canfod troseddau (e.e. twyll)
  • cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor
  • ceisiadau gwirio credyd

Y gofrestr agored (sy’n cael ei hadnabod hefyd fel y gofrestr olygedig)

Mae’r gofrestr agored yn ddetholiad o’r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio mewn etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe’i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

Bydd eich enw a’ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn i ni dynnu eich manylion oddi arni drwy ffonio 01248 752548.  Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn cael unrhyw effaith ar eich hawl i bleidleisio.

Gallwch weld mwy o wybodaeth am y ddwy gofrestr a sut y gellir eu defnyddio yn www.gov.uk/yourvotematters

Gallwn gadarnhau eich cofrestriad ar y ffôn drwy Linell Gymorth y Gwasanaethau Etholiadol ar 01248 752548. Rhaid i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad llawn.

Os ydych yn newid eich enw neu’n dymuno newid unrhyw fanylion eraill ar y gofrestr etholiadol, rhaid i chi naill ai fynd i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio a chofrestru gan ddefnyddio eich enw/manylion newydd. Cysylltwch â’r swyddfa etholiadol os oes angen rhagor o fanylion arnoch.

Os na allwch ddod o hyd i’ch enw ar y Gofrestr Etholwyr, neu os ydych newydd symud i Gonwy, gallwch gofrestru ar-lein ynwww.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.Mae’r wefan hon yn gofyn am fanylion eich enw llawn, dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol, eich cyfeiriad presennol a’ch hen gyfeiriad. Os byddai’n well gennych gael ffurflen gais bapur, cysylltwch â’r swyddfa ar 01248 752 548.

Erbyn hyn, dim ond o dan arolygaeth y gellir archwilio’r gofrestr etholwyr a hynny drwy drefnu ymlaen llaw yn Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn,Llangefni, LL77 7TW, yn unig. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â’r swyddfa ar 01248 752 548. Gallwch weld y gofrestr agored yn llyfrgell Caergybi a Llangefni.

Nac oes. Mae’r rhestr Treth y Cyngor a’r Gofrestr Etholwyr yn hollol ar wahân. Mae’r Gofrestr Etholwyr yn rhestr o bwy sy’n byw yn yr eiddo ac sy’n gymwys i bleidleisio. Does dim rhaid i’r sawl sy’n talu Treth y Cyngor ar eiddo fod yn byw yno ac nid yw o reidrwydd yn gymwys i fod ar y Gofrestr Etholwyr.

Gallwch weld a ydych ar y Gofrestr, naill ai drwy edych ar y copi cyhoeddus neu drwy gysylltu â’r swyddfa hon. Os, ar ôl edrych, welwch chi nad ydych ar y Gofrestr, gallwch wneud cais drwy fynd i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio a chofrestru ar-lein neu gallwn anfon ffurflen gais bapur i chi.

Os ydych ar y Gofrestr yn barod, gallwn roi tystysgrif preswylio i chi.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob cartref lenwi a dychwelyd y ffurflen ymholiad aelwyd (Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl, Rheoliad 23). Os na fyddwch yn gwneud hynny gallech dderbyn dirwy o gymaint â £1,000. Nid oes rhaid i chi bleidleisio yn ôl y gyfraith, ond ni chewch chi bleidleisio mewn unrhyw etholiad os nad ydych wedi cofrestru. Mae eich pleidlais chi mor bwysig â phleidlais unrhyw un. Mae gan asiantaethau credyd hawl i brynu’r Gofrestr Etholwyr Lawn sydd wedyn yn cael ei defnyddio ar gyfer un o’r gwiriadau a wneir pa fyddwch yn gofyn am amrywiaeth eang o drefniadau credyd fel morgeisi, benthyciadau banc, contractau ffonau symudol a chatalogau archebu drwy’r post. Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio gall hyn yn aml iawn olygu y bydd eich cais am gredyd yn cael ei wrthod.

Mae’r llywodraeth yn defnyddio’r Gofrestr Etholwyr i asesu faint o grant y dylid ei roi i Sir Ynys Môn. Felly, y mwyaf o bobl sydd ar y rhestr y mwyaf o arian fydd y cyngor yn ei gael i dalu am wasanaethau.

Dylai unrhyw un 14 / 15 oed a ddaw yn 16 ar neu cyn 30 Tachwedd gofrestru. Os ydych yn rhiant i unigolyn 14 neu 15 oed cofiwch eu cynnwys ar y ffurflen flynyddol a ddaw i’ch cartref gan roi eu henwau a’u dyddiadau geni.

Bydd pobl ifanc 16 oed yn gallu pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd yn 2021 ac Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022.

Mae’r Gofrestr Etholwyr yn ddogfen gyhoeddus a gellir ei archwilio yn Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, LL77 7TW o dan arolygaeth un o staff y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Dim ond ar ffurf papur ac yn ôl trefn cyfeiriadau y gellir gweld y copi cyhoeddus o’r gofrestr etholiadol. Gellir gweld y gofrestr agored mewn llyfrgelloedd lleol.  Cofiwch mai dim ond cofrestr eu hardal fydd yn y llyfrgelloedd ac nid un Conwy gyfan.  Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol neu eich llyfrgell leol i gael rhagor o fanylion.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r Cyngor ddarparu fersiwn lawn o’r gofrestr i bleidiau gwleidyddol, asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac asiantaethau credyd. Mae’r gyfraith yn cyfyngu ar y defnydd y gall y cyrff hyn ei wneud o’r wybodaeth ar y gofrestr.

Gall unrhyw unigolyn, elusen neu sefydliad masnachol brynu copi o’r gofrestr agored a gellir defnyddio’r wybodaeth ar y rhestr honno at unrhyw bwrpas.