Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein neu drwy’r post.
Os ydych wedi cofrestru, nid oes rhaid cofrestru bob blwyddyn er mwyn i’ch enw fod ar y gofrestr.
Rydym yn ysgrifennu i bob eiddo yn gofyn i chi gadarnhau a yw’r manylion sydd gennym ar gyfer eich eiddo ar y gofrestr etholiadol yn gywir.
Os ydych yn dymuno cofrestru i bleidleisio ar-lein ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio os gwelwch yn dda
Byddwch angen eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch dyddiad geni er mwyn cofrestru.
Os nad oeddech wedi eich cofrestru o’r blaen, gallwch gofrestru dan y system newydd yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu drwy ffonio’r Swyddfa Etholiadau ar 01248 752548.
Os byddwch yn ymgeisio ar-lein, anfonir eich cais at y Swyddfa Etholiadau. Byddant yn anfon llythyr i gydnabod eich cais ar ôl iddynt ei dderbyn.
Os hoffech ymgeisio drwy’r post, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Swyddfa Etholiadau ar 01248 752548 a byddant yn anfon Ffurflen Cofrestru Etholiadol Unigol atoch.
Pan fyddwch wedi cwblhau ac arwyddo’r ffurflen gais dychwelwch hi i:
Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW
Pwy sy'n cael cofrestru i bleidleisio?
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych:
- yn 14 oed neu drosodd (gallwch bleidleisio mewn rhai etholiadau pan yn 16 oed, a gallwch bleidleisio ym mhob etholiad pan yn 18 mlwydd oed) - darganfod mwy
- yn ddinesydd y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon neu’r Gymanwlad
- yn ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y Deyrnas Unedig
- yn ddinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Diriogaeth Tramor Prydeinig yn byw yn y Deyrnas Unedig