Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn annog unrhyw drigolion lleol nad ydynt eto wedi cofrestru i bleidleisio, i fynd ar-lein a chofrestru nawr - cyn ei bod rhy hwyr.
Mae Swyddfa Etholiadol Môn yn ddiweddar wedi anfon llythyr i’r holl eiddo y gofyn i gadarnhau pwy sydd wedi’u cofrestru yno. Dylai unrhyw un sy’n byw yn yr eiddo sydd yn 14 oed a throsodd, ond nad yw eu henw ar y llythyr, gofrestru ar-lein.
Rhaid bod yn 16 oed i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru ac 18 mewn etholiadau eraill.