Mae Tîm Sgriwtini y Cyngor yn awyddus i gael clywed barn poblogaeth yr ynys a chael gwybod beth sy’n pryderi’r bobl y gwasanaethwn. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi, fel aelod o’r cyhoedd, gymryd rhan gyda sgriwtini:
- drwy awgrymu pwnc ar gyfer adolygiad
- drwy fynychu cyfarfodydd fel arsylwyr
- trwy gymryd rhan mewn ymchwiliadau sgriwtini ar wahoddiad gan Banel Adolygu Sgriwtini
- trwy gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig berthnasol i ymchwiliad sgriwtini ar wahoddiad i wneud hynny
Os ydych yn dymuno awgrymu pwnc ar gyfer adolygiad, lawr lwythwch gopi Word neu PDF o’r ffurflen awgrymiadau (gweler y tab Dogfennau i’w lawrlwytho uchod) a’i hanfon yn ôl at y Tîm Sgriwtini drwy’r post:
Tîm Sgriwtini, Gwasanaethau Cyfreithiol a Phwyllgorau, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW neu llenwch ein ffurflen ar-lein.
Cysylltu â’r Uned Sgriwtini
Uned Sgriwtini,
Cyngor Sir Ynys Môn,
Swyddfeydd y Cyngor.
Llangefni.
Ynys Môn.
LL77 7TW