Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Siarad cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini


Protocol

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn brotocol siarad cyhoeddus mewn pwyllgorau sgriwtini.

O dan y Protocol hwn, gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno cais i siarad mewn cyfarfodydd o’r pwyllgorau sgriwtini pan fyddant yn trafod mater o ddiddordeb iddynt.

Rhaid i gyfranwyr wneud hyn cyn gynted â phosibl ac o leiaf 3 diwrnod gwaith clir cyn dyddiad y pwyllgor.

Pwy all siarad

Yn unol â’r trefniant yma, caniateir i un person siarad ar ran pob grŵp neu gorff lle mae gan bob grŵp neu gorff rywbeth gwahanol i’w ddweud mewn perthynas ag eitem dan ystyriaeth y pwyllgor sgriwtini.

Gall unigolion sy’n arbenigwyr maes penodol, neu sydd â safbwynt na chynrychiolir gan grŵp neu gorff, hefyd gofrestru eu diddordeb i siarad yn y cyfarfod.

Fe ddylai’r rhai hynny sy’n dymuno siarad mewn cyfarfodydd Pwyllgor gofrestru eu diddordeb i wneud hynny cyn gynted â phosibl drwy gadarnhau eu henwau a phwy maent yn gynrychioli, os yn berthnasol.

Peidiwch ag aros i bapurau'r pwyllgor gael eu cyhoeddi

Ni ddylid disgwyl i bapurau’r pwyllgor gael eu cyhoeddi cyn cofrestru, er mwyn osgoi sefyllfa lle byddant yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru a/neu bod unigolion eraill eisoes wedi cofrestru i siarad.

Anogir unigolion i adolygu Blaen Raglen Waith y Pwyllgorau Sgriwtini  sy’n nodi’r materion a fydd yn cael eu trafod.

Cofrestrwch eich diddordeb

Os ydych yn dymuno cofrestru eich diddordeb mewn siarad yn gyhoeddus mewn pwyllgor sgriwtini, llenwch ein ffurflen ar-lein isod.

Fel arall, lawrlwythwch gopi Word neu PDF o’r ffurflen gofrestru (gweler y rhestr dogfennau i’w lawrlwytho uchod) a’i hanfon yn ôl at y Tîm Sgriwtini drwy’r cyfeiriad ebost ganlynol: sgriwtini@ynysmon.llyw.cymru

Neu os nad ydi hynny’n bosib, drwy’r post ar y cyfeiriad canlynol:

Tîm Sgriwtini, Busnes y Cyngor, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW.

Protocolau diwygiedig

Nodwch fod y Protocol Siarad Cyhoeddus Mewn Pwyllgorau Sgriwtini â fabwysiadwyd ar 8 Medi 2020 wedi ei addasu oherwydd fod cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn rhithiol ar hyn o bryd.

Mae’r protocol yn y rhestr dogfennau isod yn dangos y protocol gwreiddiol efo’r addasiadau sy’n weithredol.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.