Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn


Mae’r Cyfansoddiad yn ddull pwysig i gynghorwyr, swyddogion, dinasyddion a chyfranddeiliaid ddeall sut mae’r Cyngor yn gwneud penderfyniadau a phwy sy’n gyfrifol am y penderfyniadau hynny.

Mae’r Cyfansoddiad wrth galon busnes yr awdurdod lleol. Mae’n dosrannu pwer a chyfrifoldeb o fewn yr awdurdod lleol, a rhyngddo ac eraill. Er enghraifft, mae’n dirprwyo awdurdod i weithredu i swyddogion unigol. Mae hefyd yn rheoleiddio ymddygiad unigolion a grwpiau drwy godau ymddygiad, protocolau a rheolau sefydlog.

Nodyn: Mae pob cyfeiriad yn y Cyfansoddiad hwn at 'diwrnod' yn golygu 'diwrnod gweithio' ac nid yw’n cynnwys Sadyrnau, Suliau, gwyliau’r banc a gwyliau swyddogol y cyngor (sef gwyliau sy’n cynnwys y cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd a hefyd Ddydd Gŵyl Dewi).

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.

Rhan: 1 Crynodeb ac Esboniad

Mynegai cynnwys

1.1 Y Cyfansoddiad y Cyngor

1.2 Beth sydd yn y Cyfansoddiad?

1.3 Sut y mae'r Cyngor yn gweithredu

1.4 Sut y Gwneir Penderfyniadau

1.5 Sgriwtini

1.6 Staff y Cyngor

1.7 Hawliau Dinasyddion

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.