Skip to content

Isle of Anglesey County Council


Hanes tŷ


Fe all olrhain hanes eich tŷ a chanfod hanes y bobl oedd yn byw ynddo fod yn waith hamdden gwerth chweil.  Pwrpas y daflen hon yw awgrymu ffyrdd y gellwch ddechrau eich gwaith ymchwil eich hun.

Cyn i chwi ddechrau

  • Penderfynwch beth ydych chi eisiau ei wybod am yr eiddo. A oes diddordeb gennych yn yr adeilad ynteu yn y bobl oedd yn byw yno?
  • Ceisiwch sefydlu ychydig o wybodaeth gefndirol am yr eiddo. Ym mha blwyf y mae’r tŷ? Oedd o’n arfer bod yn eglwys, yn ysgol neu’n dŷ tafarn?
  • Ystyriwch y dystiolaeth bensaernïol.  All steil yr adeilad roi unrhyw gliwiau?

Camau Cyntaf

  • Edrychwch ar y Gweithredoedd.  Bydd y dogfennau hyn yn dweud llawer wrthych am y perchenogion blaenorol ac am unrhyw newidiadau pwysig wnaed i’r tŷ.
  • Ydi’r eiddo wedi’i gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir? Os ydyw, bydd y gofrestr yn debygol o gynnwys gwybodaeth ar unrhyw werthiant, a mapiau neu gynlluniau’n dangos terfynau’r eiddo.
  • Ydi’r adeilad yn un rhestredig? Os ydyw, bydd disgrifiad byr o’r adeilad, ei hanes a materion eraill o ddiddordeb yn cael eu nodi yn y Rhestr Statudol o Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig a ddosberthir gan Cadw.

Dechrau eich ymchwil

  • Ffynonellau Printiedig: Mae gan rai plwyfi ym Môn hanes ysgrifenedig ac fe ellid dod o hyd i lawer ohonynt yn adran gyfeirio ein hystafell chwilio yn llyfrgell Llangefni.  Fe all yr eitemau hyn roi gwybodaeth bwysig i chwi am eich tŷ a’i ddeiliaid.
  • Mapiau Arolwg Ordnans: Ar gyfer tai a adeiladwyd ar ôl diwedd y 19eg ganrif, dechreuwch trwy edrych ar fapiau Arolwg Ordnans.  Fe luniwyd y mapiau manwl hyn ar raddfa o naill ai 25” neu  6” i’r filltir (fe arolygwyd Caergybi yn ôl 10.56 troedfedd i’r filltir) ac fe ddylent eich helpu sefydlu lleoliad tŷ yn ei gymuned.
  • Mapiau Degwm a Phennu Degwm: Ar gyfer tai mawr sydd dros 150 mlwydd oed, copïau Degwm a’r dyfarniadau sydd gyda hwynt yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth ar berchenogaeth tir a deiliadaeth yng nghanol y 19egganrif.  Mae’r dogfennau hyn yn cofnodi enwau’r perchenogion a’r deiliaid, a sawl erw a phob darn o dir a chyflwr ei amaethu a hefyd amlinell bloc o’r prif adeilad.  Mae’r cofnodion hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cael gwybodaeth am hen stadau.
  • Cofnodion Deddf Cyllid (1910): Y llyfrau gwerthoedd, elwid yn gyffredin yn ‘Llyfrau Dydd y Farn’ geir yn y cofnodiadau hyn a’r tudalennau Syrfe Ordnans mawr (25” i 1 filltir), sydd wedi’u lliwio i ddangos terfynau pob eiddo.  Maent yn hynod o ddefnyddiol gan eu bod yn rhoi disgrifiad byr o’r eiddo, enwau’r perchenogion a’r deiliaid a nodyn ar ei werth.
  • Cofnodiadau Stadau: Mae cofnodiadau’n ymwneud â’r stadau ym Môn yn cael eu cadw yn Archifdy Prifysgol Bangor. Gweler http://www.bangor.ac.uk/archives/
  • Cofnodiadau Cyfrifiad: Mae canlyniadau cyfrifiad 1841-1911 yn ffynhonnell gyfoethog o gofnodiadau fydd yn dweud wrthych am y bobl fu’n byw ar un adeg yn eich tŷ, gyda manylion am eu teuluoedd, eu gwaith ac yn dweud os oedd mwy nag un aelwyd neu deulu yn byw yno ar unrhyw amser.
  • Manylion Sêl: O tua 1850 ymlaen, byddai manylion ar gyfer gwerthu ffermydd, stadau ac eiddo trefol yn cynnwys, fel arfer, fapiau manwl yn dangos y tŷ a maint unrhyw dir oedd yn gysylltiedig â’r eiddo.
  • Cofrestri Etholiadol: Mae’r cofnodiadau hyn yn rhoi enwau’r bobl oedd yn gymwys i bleidleisio, a’u cyfeiriad.  Fe drefnwyd y cofrestri fel arfer yn ôl stryd ac felly mae’n weddol hawdd casglu rhestr o enwau’r bobl oedd yn byw mewn unrhyw dy arbennig. 
  • Cofnodiadau Treth Dir: Mae’r cofnodiadau hyn eto yn ffynhonnell werthfawr gan fod rhai mewn bodolaeth i bron bob plwyf o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif.  Felly, fe ellir eu defnyddio i gario yn ôl wybodaeth a gafwyd o’r mapiau Degwm.  Rhai ffynonellau eraill sydd o ddefnydd yw cofnodiadau Treth Ffenestri a hefyd gofnodiadau Treth Aelwyd lle y maent wedi goroesi.
  • Catalogau o Fapiau: Mae gan Archifau Ynys Môn hefyd gyfres o gatalogau o fapiau allai eich helpu gyda’ch gwaith ymchwil.
  • Cofnodiadau Profiant: Mae gan Archifau Ynys Môn ryw ychydig o gofnodiadau gwreiddiol, er y gellir canfod sawl ewyllys mewn casgliadau cyfreithwyr.  Mae dyfyniadau a rhagair ar 1699-1858 i’w gael yn yr ystafell chwilio.
  • Ffotograffau a Lluniau: Mae hen ffotograffau a chardiau post hefyd yn adnodd arall ardderchog.  Edrychwch ar y cardiau mynegai a chatalogau yn yr ystafell chwilio, os gwelwch yn dda.
  • Sesiynau Chwarter: Mae’r cofnodiadau a grëwyd gan Lysoedd Sesiwn Chwarter yn ffynhonnell bwysig arall o wybodaeth. Er enghraifft, os byddwch yn credu i’ch tŷ gael ei ddefnyddio unwaith fel gwesty neu dŷ tafarn, sieciwch yn y papurau sesiynau Chwarter am ymrwymiad y tafarnwr.  Mae cofnodiadau’r Llysoedd Chwarter hefyd yn cynnwys cynlluniau a rhestrau a roddwyd i mewn ar gyfer gwneud gwaith cyhoeddus megis adeiladu rheilffyrdd, camlesi a ffyrdd tyrpaig.  Maent hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer ymchwilio i hanes capeli anghydffurfwyr, gan bod angen trwydded a chofrestru ar wahanol gyfnodau ac felly fe all cofnodiadau sy’n nodi bodolaeth capeli fod wedi goroesi.

Yn olaf          

Ni fwriadwyd y daflen hon i fod yn rhestr ddihysbydd o’r ffynonellau ar gyfer hanes tai. Pe byddech yn hoffi cael mwy o wybodaeth ynglŷn ag ymchwilio i hanes eich eiddo, dewch i gysylltiad, os gwelwch yn dda, gyda ni.