Pobl sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol (gwarchod)
Dylai pobl sy'n eithriadol o agored i niwed (gwarchod) fod wedi derbyn llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol yn gofyn iddynt hunanynysu.
Mae'r llythyr yn egluro y dylent gysylltu â'u hawdurdod lleol am gymorth i gael cyflenwadau bwyd hanfodol os nad yw teulu neu ffrindiau yn gallu helpu.
Mae pob archfarchnad yng Nghymru sy'n cynnig cludiant i'r cartref wedi derbyn setiau data yn cynnwys manylion y rheini sy'n gwarchod.
Pobl sy'n agored i niwed, neu'n hunanynysu ond ddim yn gwarchod
Dylai'r bobl hyn ofyn i ffrindiau, teulu neu gymdogion sy'n iach i fynd i siopa am fwyd neu hanfodion eraill ar eu rhan, neu ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, mae’r sector cyhoeddus, busnesau, elusennau a’r cyhoedd yn paratoi i helpu. Gallwch weld pa sefydliadau gwirfoddol sy'n gallu helpu yma https://thirdsectorsupport.wales/cy/ a gallwch gael cyngor ar ba gymorth sydd ar gael i helpu gyda phethau fel siopa bwyd.
Mae gan y rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd ffyrdd o dalu ar-lein, megis e-dalebau neu gardiau rhodd. Gall y person sy'n siopa ar ran rywun arall eu defnyddio yn y siop. I gael gwybod am yr opsiynau talu, ewch i:
- wefan yr archfarchnad
- UK Finance (y llais ar gyfer y diwydiant bancio a chyllid)
Gwybodaeth am archfarchnadoedd
Amseroedd Agor
Oriau agor i'r henoed, pobl sy'n agored i niwed, gofalwyr, gweithwyr allweddol etc.
Archfarchnad
|
Yr Henoed / Pobl sy'n agored i niwed etc.
|
Y GIG etc.
|
Tesco
|
Yr Henoed, Pobl sy'n agored i niwed
|
Llun, Mer, Gwe (9-10am ) (nid yw'n cynnwys siopau 'express')
|
Gweithwyr y GIG
Gweithwyr y GIG, gofal a gwasanaethau brys eraill
|
1 awr cyn i'r siopau agor ar ddydd Sul,
9-10am, Mawrth ac Iau
Mynediad â blaenoriaeth i siopau, dewch i flaen y ciw (gyda cherdyn adnabod)
|
Sainsbury’s
|
Yr henoed, pobl anabl, pobl sy'n agored i niwed a gofalwyr
|
Llun, Mer, Gwe - 8-9am
|
Y GIG a Gofal Cymdeithasol
|
Llun - Sad
7:30-8:00
|
Morrison’s
|
|
|
Gweithwyr y GIG
|
1 awr 6am-7am Llun-Sad
9:00-10:00 Sul
|
ASDA
|
|
|
Staff y GIG a gweithwyr gofal
|
8-9am – Llun, Mer, Gwe
9-10 Sul (edrych)
|
LIDL
|
|
|
|
|
ALDI
|
Yr henoed a phobl sy'n agored i niwed nad ydynt yn gallu siopa ar-lein etc.
|
Llun-Sad - 30 munud cyn agor
|
"gweithwyr brys" - y GIG, yr heddlu, gwasanaeth tân, gweithwyr gofal cymdeithasol, ymatebwyr cyntaf, staff Ambiwlans Sant Ioan
|
Dydd Sul 30 munud cyn agor
Blaenoriaeth o flaen y ciwiau (gyda cherdyn adnabod ar gyfer staff y GIG, yr heddlu a'r gwasanaeth tân)
|
Co-op
|
Y rheini sydd â risg uchel a'r rheini sy'n gofalu amdanynt
|
Awr siopa bwrpasol,
8-9am, Llun-Sad,
10-11am Sul
|
A gweithwyr y GIG
|
(fel yr un blaenorol)
|
Waitrose
|
Yr henoed a phobl sy'n agored i niwed
|
awr gyntaf ar ôl agor bob dydd
|
Gweithwyr y GIG
|
Mynediad â blaenoriaeth i siopau ac wrth y tiliau (nwyddau wedi'u neilltuo)
|
M&S
|
Yr henoed
|
Llun, Iau (awr gyntaf o fasnachu)
|
Gweithwyr y GIG, gwasanaethau brys, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
|
Mawrth, Gwener
(awr gyntaf o fasnachu)
|
Iceland
|
Yr henoed
|
8-9 bob dydd
(dim ond y warws bwyd)
|
Staff y GIG, gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol
|
Awr olaf (Iceland a warws bwyd)
|
Siopa ar-lein a chludiant
Mae siopau cornel a siopau cyfleustra lleol hefyd wedi dechrau cynnig gwasanaethau cludo siopa i’r cartref. Caiff y gwasanaethau hyn eu hysbysebu’n aml drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu ar wefan leol bwrpasol.
Cardiau rhodd gwirfoddolwyr
Gallwch brynu'r rhain ar-lein, a gallant gael eu defnyddio gan bobl ar wahân i'r prynwr er mwyn prynu nwyddau yn y siop ar ei ran.
Fel arfer, cânt eu prynu ar-lein, ac yna anfonir e-bost gyda chod bar i naill ai'r prynwr, neu dderbynnydd arall a enwebwyd, i'w ddefnyddio i brynu nwyddau yn y siop. Mae hyn yn galluogi taliad digyswllt i gael rhwng y gwirfoddolwyr a staff y siop.
Mae nifer o archfarchnadoedd bellach wedi datblygu'r cynlluniau hyn.
Tesco – https://www.tescogiftcards.com/
- Isafswm – uchafswm - £5 - £150
- Rhif y llinell gymorth: 0800 50 55 55*
- Gellir anfon cerdyn at y prynwr neu'r gwirfoddolwr dros e-bost i'w ddefnyddio yn y siop
- Gellir ei ddefnyddio yn y siop, wedi ei argraffu neu ar sgrin ffôn. Ni ellir ei wario ar-lein.
- Nid oes modd rhoi mwy o arian ar y cerdyn ond mae modd ei ddefnyddio nes bod yr holl arian ar y cerdyn wedi cael ei wario.
- Gallwch weld faint o arian sydd ar ôl drwy ffonio 0345 0757757.
- Prynu mewn Swmp / Pryniant Corfforaethol – ar gael ar wefan gorfforaethol Tesco, www.tescoforbusiness.com
Rhif ffôn corfforaethol: 0345 6000 968 a chyfeiriad e-bost: customerservices@tescoforbusiness.com
ASDA – https://cards.asda.com/volunteer
- Isafswm - uchafswn: £5 - £150
- Rhif y llinell gymorth: 08005193333
- Gellir anfon cerdyn at y prynwr neu'r gwirfoddolwr dros e-bost i'w ddefnyddio yn y siop
- Gallwch roi mwy o arian ar y cerdyn, ar-lein
- Mae hefyd yn gwerthu cerdyn ffisegol ac mae modd rhoi mwy o arian arno ar-lein, a'i anfon drwy'r post at rywun o'ch dewis chi
- Gellir ei ddefnyddio yn y siop wedi ei argraffu neu ar sgrin ffôn. Nid ydym yn siŵr a oes modd eu defnyddio ar-lein, fel cardiau rhodd eraill ASDA.
- Prynu mewn Swmp / Pryniant Corfforaethol - https://www.asdabusiness.com/
- Rhif ffôn cerdyn corfforaethol 03332079661
Sainsbury’s - http://www.sainsburysgiftcard.co.uk/
- Isafswm - uchafswn: £5-£250
- Rhif y llinell gymorth: 03712001597
- Gellir anfon cerdyn at y prynwr neu'r gwirfoddolwr dros e-bost i'w ddefnyddio yn y siop
- Nid oes modd anfon cardiau rhodd drwy'r post
- Gallwch edrych ar-lein i weld faint o arian sydd ar ôl ar eich cerdyn, ond nid ydym yn siŵr a oes modd rhoi mwy o arian arno ar-lein
- Bydd y prynwr yn derbyn e-bost pan gaiff y cerdyn ei agor, a phob tro y caiff ei ddefnyddio
- Gellir ei ddefnyddio yn y siop wedi ei argraffu neu ar sgrin ffôn. Ni ellir defnyddio’r cerdyn ar-lein
- Mae rhai cynhyrchion nad oes modd eu prynu gyda cherdyn rhodd, a'r unig eitem fwyd yw fformiwla babanod.
- Prynu mewn Swmp / Pryniant Corfforaethol - http://www.sainsburysbusinessdirect.co.uk/
Morrison’s – https://morrisons.cashstar.com/store/recipient?locale=en-gb
- Isafswm - uchafswn: £10 - £250
- Rhif y llinell gymorth: 03443815042
- Darparu cardiau ffisegol a chardiau e-rodd, a bydd y cardiau ffisegol yn cael eu postio i'r derbynnydd, a’r e-gerdyn yn cael ei anfon drwy e-bost
- Mae modd eu defnyddio yn unrhyw siop Morrison's, wedi'u hargraffu neu ar sgrin ffôn, gan gynnwys tiliau hunanwasanaeth. Nid oes modd eu defnyddio ar-lein
- Gallwch weld faint o arian sydd ar ôl drwy ffonio'r rhif ar gefn y cerdyn, neu ar-lein ar gyfer e-gardiau, ond nid oes modd rhoi mwy o arian ar y cerdyn
- Mae modd prynu cardiau rhodd i sefydliadau mewn swmp hefyd https://morrisons-biz.cashstar.com/home/
Waitrose – http://www.johnlewisgiftcard.com/
- Isafswm - uchafswn: £10 - £500
- Archebu dros y ffôn / llinell gymorth: 03301230350
- Gellir anfon y cerdyn dros e-bost at y prynwr neu'r gwirfoddolwr i'w ddefnyddio
- Mae modd prynu cardiau rhodd ffisegol ar-lein, ond nid oes cysylltiad â lansiad y "cerdyn gwirfoddolwr"
- Mae gan Waitrose rif ffôn er mwyn prynu cardiau dros y ffôn hefyd
- Gellir defnyddio'r cerdyn yn y siop neu ar-lein
- Prynu mewn Swmp / Pryniant Corfforaethol: mae modd prynu cardiau rhodd corfforaethol arferol, ond nid oes cysylltiad â'r cynllun cerdyn gwirfoddolwr https://www.johnlewis.com/business/corporategiftcardsandgifts
M&S – https://www.marksandspencer.com/all-in-this-together/p/p60282075?prevPage=srp
- Isafswm - uchafswn: £10 - £500
- Rhif y llinell gymorth: 03330148444
- Gellir anfon y cerdyn dros e-bost at y prynwr neu'r gwirfoddolwr i'w ddefnyddio
- Gellir ei ddefnyddio ar-lein neu yn y siop
- Mae hefyd modd prynu cardiau rhodd ffisegol o M&S, ond nid oes cysylltiad â'r cynllun cerdyn gwirfoddolwr
- Mae modd prynu mewn swmp drwy dudalen rhoddion corfforaethol M&S (https://marksandspencerforbusiness.com/)
- Rhif ffôn cerdyn corfforaethol 03330148444
Co-op
- Wedi lansio menter ar gyfer siopwyr sy'n agored i niwed ac sy'n hunanynysu neu'n gwarchod: https://co-operate.coop.co.uk/support/need-support/
- Ffoniwch 0800 029 4592 – rhif ffôn penodol Co-op
- Prynu cerdyn rhodd wedi’i rannu gyda gwirfoddolwyr etc.
- Gall y llinell gymorth hefyd gyfeirio pobl at gynlluniau cymorth gwirfoddolwyr awdurdodau lleol
ALDI - https://vouchers.aldi.co.uk/
(nid e-gerdyn ar-lein)
- Mae modd prynu talebau ar-lein a'u postio er mwyn i bobl eraill allu siopa ar ran rywun arall.
- Maent ar gael i'w prynu fesul £5 a £10, heb gost ychwanegol i bostio
- Rhif ffôn gwasanaeth cwsmeriaid: 0800 042 0800
- Mae modd prynu taleb las (ond yn eithrio'r loteri) neu daleb oren (yn eithrio alcohol a'r loteri)
- Cysylltwch drwy vouchers@aldi.co.uk ar gyfer pryniannau sefydliadol.
- Os yw'r pryniant yn llai na chost y daleb, ni chaiff newid ei roi ac ni fydd y swm yn aros ar y daleb
SPAR
- Partneriaeth â’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol sy’n caniatáu i wirfoddolwyr siopa ar ran unigolion sydd angen y gwasanaeth hwn.
- Gall gynnwys siopau Spar annibynnol neu rai sy'n berchen i'r cwmni.