Cofiwch olchi a gwasgu eich eitemau ailgylchu cyn eu rhoi yn y troli bocs. Bydd hyn yn creu mwy o le yn eich troli bocs ac yn sicrhau fod eich bocsys yn cael eu gwagio.
Os yw’r eitemau ailgylchu a gyflwynir yn fudr, neu os oes olion bwyd arnynt, ni fydd Contractwr Casglu Gwastraff y Cyngor yn gwagio’r bocsys ailgylchu.
Byddant yn cael eu gadael ac yn cael eu casglu’r wythnos ganlynol (ar yr amod fod pob eitem yn lân).
Trolibocs
Bocs top coch
Oherwydd yr amgylchiadau presennol, ni fyddwn yn casglu tecstilau yn y bocs top ailgylchu, nac yn y banciau dillad dim mwy. A wnewch chi ddal ar eich eitemau tan mae’r amgylchiadau’n gwella plîs? Ymddiheurwn am unrhyw anhawsterau achoswyd
- Papur cymysg
- Cylchgronau ac amlenni
- Tecstiliau (hen ddillad a deunydd, gan gynnwys dillad gwely. Dim duvets na chobennydd)
Sicrhewch os gwelwch yn dda bod y tecstiliau yn cael eu rhoi mewn bag plastig o fewn y bocs top coch ar bob achlysur. Bydd hyn yn sicrhau na fydd y tecstiliau yn gwlychu mewn tywydd garw.
Bocs canol glas
- Poteli plastig
- Potiau, tybiau a chynwysyddion plastig
- Caniau diod, tuniau bwyd ac erosolau
- Eitemau ffoil glân
Dim tuniau nwy
Bocs gwaelod oren
- Poteli gwydr a jariau
- Cardbord (dim mwy na 50cm x 50cm)
Bin gwastraff bwyd
- Llysiau a Ffrwythau
- Bara a Phastai
- Cynnyrch Llaeth
- Cig ac Esgyrn
- Pysgod
- Te a Choffi
Cwdyn gwyn
- Batris cartref
- Cetris inc
- Ffonau symudol
Bin gwyrdd
- Toriadau Gwair
- Dail
- Chwyn
- Blodau a Phlanhigion
- Brigdoriadau Gardd
- Toriadau Gwrychoedd
- Brigau a Changhennau Tenau
Dim Bagiau Plastig
Dim Gwastraff Cegin a Bwyd
Dim Pridd a Rwbel