Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth cymorth casglu


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn rhoi cymorth mewn achosion lle na fedr unigolion, oherwydd eu bod yn fregus neu oherwydd analluedd, ddanfon eu biniau ar olwynion neu focsys ailgylchu at ochr y lôn ac ar yr amod nad oes unrhyw berson arall a allai gyflawni’r dasg yn byw yn y tŷ, gallent gyflwyno cais ffurfiol i’r Cyngor am wasanaeth cymorth casglu.

Os bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r cais am y gwasanaeth cymorth casglu, yna bydd yn cytuno gyda deilydd y tŷ ar bwynt casglu addas.

Cyfyngir y gwasanaeth cymorth casglu i’r aelwydydd hynny sydd mewn angen gwirioneddol yn dilyn proses o gyflwyno cais i’r Cyngor. Bydd y Cyngor yn adolygu’r angen am y gwasanaeth hwn bob blwyddyn.

Sut rydym yn defnyddio eich manylion personol

Bydd y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio i bwrpasau gweinyddol.

Deddf Diogelu Data 1998. Cyngor Sir Ynys Môn yw’r rheolwr data at ddibenion y ddeddf.