Bydd deiliaid tai yn cael archebu ymweliad ar-lein drwy ‘Fy Nghyfrif’ ar y wefan.
Rhaid bod gennych gyfrif eisoes neu bydd angen i chi greu cyfrif newydd er mwyn archebu ar-lein. Ceir arweiniad ar sut i gofrestru - cofrestrwch gyda ‘Fy Nghyfrif’.
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ‘Fy Nghyfrif’, defnyddiwch y ddolen isod. Sylwch: nid yw'r ffurflen archebu ar gael ar AppMÔN.
Mae canllawiau manwl ar sut i lenwi'r ffurflen ar gael.
Pwysig: wrth lenwi'r ffurflen dylid gofnodi'ch cyfeiriad yn awtomatig. Os nad yw'n ymddangos, teipiwch eich Cod Post (nid eich cyfeiriad) a dewiswch eich cyfeiriad o'r gwymplen. Rhowch eich cod post yn y fformat LL77 7TW, gan adael lle rhwng dwy ran y cod post.
Pwysig: ar ddiwedd y ffurflen bydd taflen grynodeb yn ymddangos fel y gallwch wirio a yw popeth wedi'i fewnbynnu'n gywir. Unwaith y byddwch yn hapus, cliciwch 'Cyflwyno' i gwblhau eich cais am wasanaeth.
Ar ôl i chi glicio 'Cyflwyno', bydd neges werdd yn ymddangos ar gornel dde eich sgrin i gadarnhau ei bod wedi'i chyflwyno. Sylwch: NID dyma'ch cadarnhad o'ch lle. Byddwch yn cael e-bost maes o law i gadarnhau a oes gennych le ai peidio.
Os ydych yn defnyddio dyfais symudol, trowch y ffôn ar ei ochr er mwyn i chi allu gweld y cyfarwyddiadau a'r botwm 'Cyflwyno' yn well.
Os sylwch nad oes slotiau ar gael yna bydd pob un wedi'i archebu. Daliwch ati rhag ofn y bydd ceisiadau'n cael eu gwrthod.
Bydd y nifer o ymweliadau ar-lein ellir eu harchebu wedi eu cyfyngu er mwyn cwrdd ag anghenion iechyd a diogelwch.
Dim ond un ymweliad a ganiateir i bob cartref yn ystod y cyfnod cychwynnol yma.
Gofalwch eich bod yn cyrraedd ar amser – plis peidiwch a chyrraedd yn gynarach/hwyrach.