Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Tipio anghyfreithlon a gorfodaeth gwastraff


Tipio anghyfreithlon: Diffiniad

‘Tipio Anghyfreithlon’ yw gadael gwastraff a reolir yn ddiawdurdod ar dir nad yw wedi ei drwyddedu i’w dderbyn.

Mewn geiriau eraill mae’n rhywbeth mwy na gadael sbwriel.

Gellir gweld yr union fanylion am y drosedd o dan Adran 33 Deddf Diogelwch Amgylcheddol 1990.

Mae pobl sy’n cyflawni’r drosedd hon yn torri’r gyfraith ac mae tipio anghyfreithlon yn niweidiol i’r amgylchedd, yn llygru, yn annifyr i edrych arno, yn wrthgymdeithasol ac yn gostus i’w glirio.

Tipio anghyfreithlon

Llenwch y ffurflen ar-lein.

Fel arall, lawrlwythwch ffurflen isod, ei chwblhau a'i hanfon i'r Adain Rheoli Gwastraff, neu ffoniwch y swyddfa ar 01248 750 057. Gallwch adrodd yn ddienw os dymunwch.

Nid oes angen stamp - defnyddiwch y cyfeiriad rhadbost ar y ffurflen.

Beth mae'r cyngor yn ei wneud ynglŷn â thipio anghyfreithlon

Bydd pob achos o dipio anghyfreithlon yr adroddir amdano yn cael ei ymchwilio, a’i archwilio a chymerir ffotograff ac yna caiff ei basio ymlaen i’n contractwyr i’w glirio.

Mae’r tystiolaeth yn cael ei ddefnyddio i sefydlu enw a chyfeiriad, manylion cyfrif banc personol, enwau cwmnïau neu unrhyw beth fydd yn cyfeirio’r Swyddog Gorfodaeth tuag at y troseddwr.

Mae hyn yn cymryd llawer o amser ac ymdrech gyda rhywbeth y gellir mynd ag ef i , a hynny am ddim ar gyfer delio ag ef yn y ffordd gywir.

Tir preifat

Nid cyfrifoldeb y cyngor yw clirio achosion o dipio anghyfreithlon ar dir preifat. Bydd angen gwneud trefniadau preifat.

Y gyfraith

Cyflwynwyd Cyfraith Statud i gosbi’r rhai sy’n cyflawni trosedd Amgylcheddol.

Defnyddir y ddeddfwriaeth hon i roi dirwy sefydlog a chymryd camau cyfreithiol lle bo angen hynny.

Cymryd camau gorfodaeth yw’r opsiwn olaf ac addysgu pobl yw’r opsiwn gorau bob tro.

Bydd yr Adain Rheoli Gwastraff yn gweithio gyda thrigolion i addysgu a rhoi cyfarwyddyd ar sut i ddelio gyda gwastraff a chael gwared ohono mewn ffordd gyfrifol.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.